Cau llwybr wedi tirlithriadau 'yn peryglu bywoliaeth'

  • Cyhoeddwyd
Difrod i'r ffordd wedi cyfres o dirlithriadau
Disgrifiad o’r llun,

Dydy cerbydau ddim yn cael teithio ar hyd y llwybr i Borth Meudwy ar hyn o bryd

Ar ôl cyfres o dirlithriadau mae ffordd ym Mhen Llŷn wedi'i chau i gerbydau, sy'n achosi problemau mawr i bysgotwyr ac ymwelwyr i Ynys Enlli.

Ers cyn y Nadolig dyw cerbydau ddim yn cael teithio ar hyd y llwybr i Borth Meudwy ger Aberdaron.

Roedd glaw trwm a llifogydd ym mis Tachwedd wedi achosi tirlithriad a difrod i'r ffordd, a dim ond ar droed mae modd cyrraedd y môr yno erbyn hyn.

Mae perchennog y tir, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn cydweithio â chyrff eraill i benderfynu ar y ffordd orau o ymateb i'r sefyllfa, yn sgil ofnau y gallai trwsio'r ffordd fod yn gostus iawn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Porth Meudwy yn le cysgodol, ac felly'n fwy hwylus na nifer o ardaloedd lleol eraill, yn ôl pysgotwyr

Mae'n ardal bwysig iawn i bysgotwyr lleol ac o Borth Meudwy mae'r cwch yn hwylio am Ynys Enlli.

Wedi i beirianwyr arbenigol asesu'r difrod, mae wedi dod i'r amlwg bydd y gost o atgyweirio'r llwybr yn ddegau o filoedd o bunnau.

Cario abwyd, petrol, cewyll

Un sy'n pryderu'n arw am y sefyllfa ydy'r pysgotwr lleol, Huw Erith, sy'n galw am wneud rhywbeth ar frys.

"Dwi'n pysgota fa'ma mwy neu lai ar hyd fy mywyd," meddai. "Ma' Porth Meudwy yn lle cysgodol, yr unig beth sy'n amharu ar fa'ma ydy gwynt y dwyrain.

"Pan fydda' ni'n dod lawr fel arfer, fydda ni'n dod lawr efo cerbyd ac yn cario'n habwyd, cario'n petrol a chario'n cewyll ac yn y blaen - wedyn cario be' bynnag 'da ni'n ddal yn ôl i fyny.

"Ond gan fod y lôn wedi cau, fedran ni'm gwneud hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pysgotwyr fel Huw Erith yn galw am ddatrys y sefyllfa cyn bod yna fygythiad i'w bywoliaeth

Ychwanegodd: "Fasa datrys y broblem dros dro yn help. Tasa ni dim ond yn cael hawl i dramwyo i gerbydau ysgafn, 'mond bod ni'n gallu mynd 'nôl ac ymlaen.

"Fasa ni'n hwylio i ddechrau pysgota rŵan. Gorau po gynta' geith hyn ei ddatrys neu mae o'n mynd ymlaen ac ymlaen, ac mi fydd hanner y tymor 'di mynd.

"Mae o'n mynd i rwystro ni ennill ein bywoliaeth ni mewn ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ffordd yn arwain at Borth Meudwy sef lleoliad y cwch sy'n cludo teithwyr i Ynys Enlli

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle ac maen nhw'n cydweithio â chyrff lleol eraill i geisio casglu digon o arian.

Mae 'na hefyd ymgyrch ariannu torfol wedi'i lansio yn y gobaith o ddenu cyfraniadau gan y cyhoedd - yn bobl leol ac ymwelwyr i'r ardal.

Heb fynediad at Borth Meudwy fe fydd yn amhosib i bobl deithio i Enlli i fyw, gweithio, aros nag ymweld. Mae hyn yn cynnwys y ffermio, pysgota, cadwraeth bywyd gwyllt, treftadaeth a chroesawu ymwelwyr.

'Ynys Enlli am gau lawr'

Mae'r Cynghorydd Gareth Roberts yn cynrychioli ward Aberdaron ac yn ffermio ar Ynys Enlli.

"Fuodd 'na bron i 1,000 o bobl yn aros ar Ynys Enlli llynedd, mae 'na rhai miloedd yn dod yno fel ymwelwyr am y dydd," meddai.

"Mae Ynys Enlli am gau lawr, d'eud y gwir. Fedrwch chi ddim cael pobl i aros am wythnos yno heb gael eu nwyddau nhw, eu bwyd nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Roberts y bydd y gwaith yn costio "degau lawer o filoedd"

Ychwanegodd: "Ma' pobl sy'n byw yno angen cael stwff iddyn nhw'u hunain. Ma' angen cael disel, petrol - mae o jyst yn amhosib.

"Mae o'n mynd i gostio degau lawer o filoedd i wneud y gwaith, sydd yn bres reit sylweddol.

'Da ni'n gweithio'n galed fel swyddogion cyngor sir, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Enlli - pawb yn trio gweithio efo'i gilydd i drio trwsio'r llwybr."

Disgrifiad o’r llun,

O Borth Meudwy mae'r cwch yn hwylio i Ynys Enlli

Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fod "cyfres o dirlithriadau wedi gwneud y llwybr yn anniogel i gerbydau" a'u bod nhw a nifer o gyrff eraill yn cydweithio i "geisio penderfynu ar y ffordd orau ymlaen a dod o hyd i'r cyllid ar gyfer y gwaith".

Ychwanegon nhw fod yr holl bartneriaid sydd ynghlwm â'r sefyllfa yn "awyddus i weld yr adnodd diwylliannol ac economaidd pwysig hwn yn ailagor ar ôl dod o hyd i ateb cynaliadwy i effaith y tirlithriadau".