Cofio 70 mlynedd ers trychineb bomiwr awyr ger Bethesda

  • Cyhoeddwyd
Cwm Pen Llafar
Disgrifiad o’r llun,

Mae ardal y ddamwain yng Nghwm Pen Llafar wedi ei lleoli rhwng Carnedd Llewelyn a Charnedd Dafydd

Dros y penwythnos bydd pobl yn ardal Bethesda yn nodi 70 mlynedd ers un o'r damweiniau awyr mwyaf trychinebus i ddigwydd yn yr ardal.

Roedd y rhan honno o Eryri eisoes yn adnabyddus am fod yn fynwent i awyrennau yn dilyn sawl damwain yno flynyddoedd ynghynt yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Ond pan blymiodd y bomiwr RAF i'r tir yng Nghwm Pen Llafar yn oriau man y bore ar 15 Mawrth 1950 gan ladd y chwe aelod o'r criw, cafodd trigolion lleol eu hysgwyd.

"Dynion ifanc oedd pob un o'r criw," meddai Dr Hazel Pierce o Brifysgol Bangor, sydd wedi ymchwilio i amgylchiadau'r ddamwain.

"[Roedd] rhai gyda theuluoedd ifanc a oedd eisoes wedi gwasanaethu eu gwlad gydag anrhydedd, ac wedi goroesi peryglon ofnadwy yn ystod y rhyfel.

"Mae'n anodd derbyn eu bod wedi colli eu bywydau yn ystod adeg heddwch ar daith hyfforddi arferol."

'Pelen o dân'

Roedd y bomiwr Avro Lincoln yn cynnal ymarferion yn yr ardal pan gawson nhw eu dal mewn tywydd gwael, a chyda diffygion yn eu system radio doedd dim modd canfod eu ffordd yn ôl i Sir Lincoln.

Fe lwyddon nhw i wneud cyswllt gyda safle RAF Fali, ond funudau'n ddiweddarach cafodd yr awyren ei gweld yn hedfan i gyfeiriad y Carneddau.

Roedd Owen Brown-Williams yn byw ym mhentref Gerlan ar y pryd ac fe welodd yr awyren yn hedfan yn "isel" ychydig funudau cyn y digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Mark Shore
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd y Sgwadron oedd John Talbot Lovell Shore, fu'n garcharor rhyfel i'r Almaenwyr yn yr Ail Ryfel Byd

"Clywsom ffrwydrad o fewn cyfnod byr iawn a neidiodd haen o dân i awyr y nos ym mhen pellaf Cwm Pen Llafar," meddai.

Ychwanegodd ffermwyr mynydd oedd yn dyst i'r ddamwain ei fod fel "pelen o dân yn y dyffryn gyda darnau'n llosgi yn gwasgaru i bob cyfeiriad".

Anfonwyd anfonwyd Tîm Achub Mynydd yr RAF allan at safle'r ddamwain, wedi'u harwain gan Mr Brown-Williams a John Ogwen Thomas o Fferm Tyddyn Du, Gerlan, oedd â gwybodaeth leol o'r tir.

Bu'n rhaid i'r tîm gerdded bedair milltir dros dir corsiog yn y tywyllwch, gwynt a glaw i gyrraedd y safle - a phan gyrhaeddon nhw roedd hi'n amlwg yn syth nad oedd unrhyw un wedi goroesi.

Cafwyd hyd i bedwar corff bron yn syth yn y malurion, oedd yn parhau i fudlosgi, ac fe gafodd y ddau arall eu darganfod ychydig yn bellach i ffwrdd y bore wedyn.

Ffynhonnell y llun, Mick Cundy
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gynnwr Godfrey Leo Cundy ond wedi ailymuno â'r awyrlu bum mis cyn y ddamwain

Roedd y chwech fu farw i gyd rhwng 22 a 32 oed, gyda phump ohonynt wedi gwasanaethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Bu Arweinydd y Sgwadron John Talbot Lovell Shore, yr hynaf ohonynt, yn garcharor rhyfel a lwyddodd i ddianc o wersyll yr Almaenwyr wrth dwnelu allan gyda charcharor arall.

Ymhlith y lleill roedd yr awyr-lefftenant Cyril Alfred Lindsay, 26, oedd newydd briodi a'i wraig yn disgwyl eu plentyn ar y pryd.

Roedd dau arall - y gynwyr Robert Henry Wood, 27, a Godfrey L Cundy, 27 - ond wedi ailymuno â'r awyrlu ychydig fisoedd cynt y drasiedi.

Yn y cwest ym Methesda cofnodwyd rheithfarn o farwolaeth drwy ddamwain, a diolchodd y crwner i bawb oedd wedi mynd allan i geisio helpu'r rhai oedd yn yr awyren.

Ychwanegodd yr Arweinydd Sgwadron Hewitson o'r Fali ei werthfawrogiad o'r "cymorth a roddwyd bob amser a'r caredigrwydd a ddangoswyd gan bobl ardal Bethesda i bersonél yr RAF a fu'n rhan o ymdrechion achub mewn damweiniau".