Gallai cynghorau gael yr hawl i redeg cwmnïau bysys
- Cyhoeddwyd
Gallai cynghorau gael yr hawl i redeg cwmnïau bysys eu hunain neu orfodi cwmnïau i wneud cais i fod yn gyfrifol am rai teithiau fel rhan o gynlluniau i ddiogelu gwasanaethau.
Yn ôl y Gweinidog Economi, Ken Skates, roedd dadreoleiddio'r gwasanaethau bysiau yn y 1980au yn "fethiant gwael".
Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfraith newydd sy'n dadwneud diwygiadau marchnad agored.
Ond mae'r rhai sy'n gweithredu bysiau wedi dweud nad yw "canolbwyntio ar drefn reoleiddio yn mynd i arwain at deithiau cyflymach na chwaith yn mynd i fod o fudd i deithwyr".
Tan yr 1980au roedd rhan fwyaf o rwydwaith bysys Prydain yn cael eu rhedeg gan gwmnïau cyhoeddus ond yna penderfynodd llywodraeth y dydd y dylai cwmnïau y tu allan i Lundain gystadlu am weithredu gwasanaeth.
Ers hynny, mae nifer o lwybrau llai proffidiol wedi colli gwasanaethau.
Yng Nghymru mae gwasanaethau bws i deithwyr wedi gostwng o 125.3m yn 2007-08 i 99.9m yn 2017-18.
"Mae'n amlwg nad yw'r model marchnad rydd yn gweithio," medd Mr Skates.
'Atal llygredd'
Ond fydd gweinidogion ddim yn gorfodi cynghorau i ddefnyddio'r pwerau newydd a does dim disgwyl fod arian newydd ar gael i gyllido'r gyfraith newydd.
Bydd y Mesur Gwasanaethau Bws yn rhoi i gynghorau yr hawl i sefydlu masnachfreintiau - sy'n golygu y bydd cwmnïau yn gorfod gwneud cais am redeg gwasanaethau ar rai teithiau - system debyg i'r un sy'n cael ei gweithredu yn Llundain.
Gallai'r mesur gael ei ddefnyddio i gael gwared ar gystadlaethau rhwng cwmnïau bysys sy'n teithio ar hyd yr un llwybrau - mae'r llywodraeth yn gweld bod hynny yn dyblygu gwasanaethau ac hefyd yn llygru'r amgylchedd.
Y nod yw rhoi hwb i wasanaethau.
Ond mae cwmni First Cymru sy'n gwasanaethu de a gorllewin Cymru yn honni y gallai masnachfreintiau gael effaith negyddol tra bod cwmni Cardiff Bus sy'n eiddo i'r awdurdod lleol yn ofni y gallent golli pob taith ac mai cwmni mwy fyddai'n elwa.
O dan y drefn newydd gallai cynghorau redeg eu cwmnïau eu hunain a chyflenwi'r unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth.
Fe fyddai'r drefn yn dadwneud yr hyn a wnaeth llywodraeth San Steffan yn yr 1980au o dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher.
Yr adeg honno bu'n rhaid i nifer o gynghorau werthu eu gwasanaethau bws. Roedd yna ddau eithriad - Cardiff Bus a Newport Transport - mae'r rheiny dal yn eiddo i'r cynghorau ond yn cael eu rheoli gan gwmnïau hyd-braich.
Ymhlith argymhellion eraill sydd yn y mesur mae pwerau i wella rhannu gwybodaeth i deithwyr.
Gellid hefyd gorfodi rhai llwybrau teithio gyda gweithredwyr yn darparu gwasanaeth ar amserau penodol.
'Colli cyfle'
Mae John Pockett, cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru, sy'n cynrychioli gweithredwyr bysys yn dweud bod angen "delio â thagfeydd er mwyn sicrhau teithiau cyflymach oherwydd "dyna pam mae pobl yn dewis peidio teithio ar fws".
"I gyflawni hynny bydd angen buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru i wasanaethau bysys mewn trefi a dinasoedd.
"Yn anffodus dyw'r mesur ddim yn dweud a fydd hynny yn digwydd yn fuan ac mae hynny yn gyfle sydd wedi cael ei golli."
Mae angen i'r Mesur Gwasanaethau Bws gael ei basio gan y Cynulliad cyn iddo ddod yn gyfraith.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018