Estyn yn atal archwilio ysgolion oherwydd coronafeirws
- Cyhoeddwyd
Mae Estyn wedi atal eu gwaith archwilio mewn ysgolion oherwydd pryderon coronafeirws.
Yn ôl Meilir Rowlands, prif archwilydd Estyn, cafodd y penderfyniad ei wneud er mwyn "rhoi ffocws llawn ar les dysgwyr, staff a theuluoedd".
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams AC ei bod yn "cefnogi'r penderfyniad yn llawn".
Yn ôl Mr Rowlands: "Rydw i wedi gwneud penderfyniad i ganiatáu arweinwyr a staff ymhob sefydliad addysg a'r rhai sydd yn eu cefnogi, i ganolbwyntio yn llawn ar les eu dysgwyr, eu staff a'u teuluoedd.
"Bydd y penderfyniad i atal gwaith archwilio yn helpu darparwyr addysg gynnal lefelau staffio.
"Mae'r gwaith archwilio mewn ysgolion yn cael ei atal hyd nes i'r sefyllfa bresennol basio neu wella yn sylweddol."