Cwyno am gyfyngu nifer gwesteion mewn seremonïau priodas

  • Cyhoeddwyd
Becky Dineen a'i phartner DavidFfynhonnell y llun, Becky Dineen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Becky Dineen i fod i briodi ei phartner David ddydd Sadwrn

Mae perchnogion cartref hanesyddol sy'n cael ei ddefnyddio fel lleoliad priodasau wedi galw penderfyniad cyngor i gyfyngu ar nifer y gwesteion o achos coronafeirws fel cam "cwbl ddi-synnwyr".

Mae rhai cynghorau wedi cyfyngu niferoedd y gwesteion i 10 un unig - penderfyniad sydd wedi cythruddo Bre a Graham Carrington-Sykes, sy'n rhedeg Pentre Mawr yn Llandyrnog ger Dinbych.

Mae'r ddau wedi ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys gan ddadlau fod y cyfyngiadau yn mynd i effeithio ar fusnesau.

Cafodd y ddau glywed ddydd Mawrth na fyddai unrhyw seremoni dan ofal cofrestrydd Cyngor Sir Ddinbych yn caniatau mwy na 10 o westeion o achos coronafeirws.

Maen nhw'n dadlau nad oes modd dod o hyd i unrhyw ganllaw swyddogol ar niferoedd penodol ac ni ddylai'r rheol fod mewn grym ar gyfer lleoliadau mwy, fel eu busnes nhw.

Gohirio priodas

Roedd Becky Dineen o Landrillo-yn-Rhos i fod i briodi ei dyweddi David ym Mhentre Mawr ddydd Sadwrn, ond bu'n rhaid gohirio'r briodas o achos y cyfyngiadau ar niferoedd y gwesteion.

"Fe gawson ni alwad ddoe gan y cofrestrydd yn dweud mai'r unig ffordd allen nhw gynnal y briodas oedd os mai dim ond chwe pherson oedd yn y 'stafell," meddai Becky.

"Roedden ni i fod i gael 86.

"Felly yn y diwedd roedd rhaid i ni ddod i'r penderfyniad i ohirio'r briodas achos fyddai o jyst ddim wedi gweithio."

Dywedodd perchnogion Pentre Mawr eu bod wedi gweithredu nifer o gamau hylendid llym ar y safle, a sicrhau fod gwesteion yn cadw hyd braich cymdeithasol oddi wrth ei gilydd.

Maen nhw wedi cynghori gwesteion bregus i wylio seremonïau drwy gyswllt fideo hefyd.

Ffynhonnell y llun, Becky Dineen
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol roedd Becky a David wedi gobeithio cael 86 o westeion yn eu seremoni briodas

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi cyhoeddi mai dim ond niferoedd cyfyngedig o westeion fydd yn cael mynychu priodasau dan ofal eu cofrestrwyr priodasau.

Dywedodd llefarydd: "Fel cyngor, rydym, fel dyletswydd gofal i'n staff, yn argymell gweithio o adref pan mae'n bosib i gefnogi ymbellhau cymdeithasol."

Ychwanegodd fod y cyfyngiad ar niferoedd wedi cael ei gyflwyno "er mwyn diogelu staff tra'n parhau i gefnogi busnesau".

"Mae diogelwch pobl o bwys hanfodol ar hyn o bryd tra rydym yn ystyried y ffyrdd gorau i amddiffyn ein staff a'n cwsmeriaid.

"Rydym oll yn gweithio o dan amgylchiadau hynod o anodd ar hyn o bryd wrth i ni barhau i ddarparu'r gwasanaeth gorau a mwyaf cyfrifol ag y gallwn."

Cyfyngiadau Sir Benfro

Cyngor arall sydd wedi cyhoeddi cyfyngiad ar nifer y gwesteion sy'n cael bod mewn seremonïau priodas yn sgil coronafeirws ydi Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd y cyngor fod eu cofrestrwyr yn parhau i gynnal seremonïau sydd dan ofal eu cofrestrwyr priodasau mewn lleoliadau swyddogol ar hyd a lled y sir.

Ond dim ond nifer cyfyngedig o westeion fydd yn cael bod yn bresennol o hyn allan oherwydd sefyllfa'r haint.

Dim ond 10 o westeion fydd yn cael bod yn bresennol mewn seremonïau o ddydd Mercher ymlaen, ynghyd a'r pâr priod.

Bydd yn rhaid i bawb sydd yno gadw hyd braich cymdeithasol er mwyn atal ymlediad coronafeirws.

Maen nhw hefyd wedi dweud y caiff cyplau sydd am ohirio neu ganslo eu seremonïau wneud hynny'n rhad ac am ddim.