Hyfforddwr tîm merched Cymru yn gadael ei swydd
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Rowland Phillips, wedi gadael ei swydd.
Daw hyn ar ôl i Phillips fod yn absennol o'i swydd am gyfnod, heb fod rheswm wedi cael ei roi.
Ym mis Hydref dywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai Phillips yn colli dwy gêm brawf gan "gymryd amser i ffwrdd o'i waith".
Doedd Phillips ddim yn bresennol ar gyfer cyfres yr hydref na chyfres y chwe gwlad.
Dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru ei fod wedi "gadael ei swydd oherwydd ei fod am geisio am gyfleoedd eraill."
"Hoffai Undeb Rygbi Cymru ddiolch i Rowland am ei gyfraniad a'i ymroddiad yn ystod ei gyfnod gyda ni, ac rydym yn dymuno'r gorau iddo yn y dyfodol," meddai datganiad ar ran yr undeb wrth gadarnhau'r newyddion ei fod yn gadael.
Mae'r hyfforddwyr Chris Horsman, Geraint Lewis a Gareth Wyatt wedi bod yn ymgymryd â dyletswyddau Phillips yn ei absenoldeb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019