Coronafeirws: Her newydd yn wynebu banciau bwyd
- Cyhoeddwyd

Mae un o drefnwyr banc bwyd yn y canolbarth wedi bod yn sôn am yr heriau sy'n wynebu banciau bwyd wrth i nifer o wirfoddolwyr hŷn gadw draw oherwydd risg coronafeirws.
Ar raglen Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru dywedodd y Parchedig Gareth Reid fod mentrau elusennol fel banc bwyd Llandysul yn ddibynnol iawn awr bobl hŷn.
"Byddwn i'n amcan fod tua dwsin o bobl, wedi gorfod cadw draw.
"Oedd roedd nifer fawr ac felly wrth gwrs mi oedd gair wedi dod oddi wrth y llywodraeth bod angen i rai dros saith deg neu oedd ag afiechyd orfod hunan ynysu."
Ychwanegodd fod rhai o'r rhai sydd wedi gorfod rhoi'r gorau iddi am y tro ymhlith y pwyllgor sy'n gyfrifol am y banc bwyd.
Roedd tua 20 o wirfoddolwyr yn helpu'r elusen.
Ond dywedodd y Parchedig Reid fod yna obaith o'r newydd gan fod un neu ddau o wirfoddolwyr newydd wedi ymuno.
"Mae pobl wedi ymateb yn dda ac mae hynny'n codi'r ysbryd pan ydych chi'n flinedig neu yn stressed neu beth bynnag."

Parchedig Gareth Reid: "Pobl leol yn ymateb yn llawn cariad."
Problem arall sy'n eu hwynebu yw bod silffoedd gwag y siopau yn golygu fod pobl yn fwy cyndyn o roi bwyd.
"Ryn ni'n ymwybodol y bydd hi'n bosib iawn y byddwn ni nawr yn cael llai o bethau yn dod mewn oherwydd efallai na fydd cymaint ar gael yn y siopau, falla fod pobl ddim efo digon o arian neu yn poeni am eu harian nhw oherwydd bod nhw ddim yn gweithio...", meddai'r Parchedig Reid.
Mae'r banc hefyd yn ceisio helpu gyda hylendid wrth i bobl geisio atal ymlediad coronafeirws
"Da ni wedi ychwanegu pethau fel sebon i bob pecyn a ni'n edrych bosib ar gael thermomedr digidol hefyd fel y gallwn ni roi mas mewn pecynnau gwahanol i helpu pobl.
"Mae'n rhaid dweud rydyn ni wedi gweld drwy'r banc bwyd mae pobl leol yn ymateb yn llawn cariad yn enwedig yn yr amser yma a rydyn ni'n gweld y syniad o gymuned."