Deg i’w darllen cyn troi’n 10 oed
- Cyhoeddwyd
A hithau'n amser pan mae'n rhaid i'r plant aros yn y tŷ, dyma'r cyfnod perffaith i'w hannog i ddarllen mwy.
Ond sut mae gwybod beth yw'r llyfr mwyaf addas?
Morgan Dafydd yw golygydd gwefan newydd Sôn am Lyfra, dolen allanol, sydd yn darparu adolygiadau dwyieithog o lyfrau Cymraeg i blant.
Yma mae wedi rhoi rhestr at ei gilydd o'r 10 llyfr mae o'n credu mae'n rhaid i chi eu darllen os ydych chi'n 7-10 oed:
Mi ges i goblyn o job dewis y rhestr fer, ac wrth gwrs mae 'na lwyth o lyfrau ardderchog eraill, ond rhain ydi fy ffefrynnau i. Maen nhw'n gymysgedd o glasuron a rhai diweddar, llyfrau gwreiddiol ac ambell addasiad.
Dydi'r rhestr ddim mewn unrhyw drefn benodol!
Gawn ni stori? - John Owen Huws
Casgliad o 24 o chwedlau a straeon am arwyr Cymru. Mae rhai fel Cantre'r Gwaelod yn gyfarwydd iawn, ac eraill, fel Lladron Crigyll, yn fwy dieithr. Bydd rhywbeth at ddant pawb. Mae ansawdd y llyfr yn wych. Dwi wrth fy modd gyda llyfrau clawr caled - a 'da chi'n cael rhuban glas fel llyfrnod. Cŵl!
Matilda - Roald Dahl (addas. Elin Meek)
Dyma gyfieithiad o lyfr llawn hiwmor sy'n nodweddiadol o'r awdur gwreiddiol. Stori am ferch ddawnus, ryfeddol sydd wedi darllen pob llyfr yn y llyfrgell! Clywn am ei hanturiaethau yn yr ysgol, a gaiff ei theyrnasu gan brifathrawes filain sy'n casáu plant. Cawn ein cyflwyno i gymeriadau lliwgar sy'n cael eu disgrifio'n ffantastig. Mae'r llyfr lawn cystal - os nad gwell - na'r ffilm lwyddiannus.
Syniadau Slei (anaddas i oedolion!) - Mari Lovgreen
Petai modd mi fyddwn i wedi cynnwys pob un o lyfrau'r gyfres Halibalŵ ar y rhestr, ond dwi wedi gorfod dewis un. Mae'r awdur yn fam ei hun ac yn gwybod sut i ysgrifennu stori ddoniol sy'n apelio at yr oedran dan sylw. Mae'r teitl ei hun yn glyfar ac yn gwneud i blant ysu am ei ddarllen!
Cawn yma stori hollol boncyrs am gefndryd, Wil a Dot, sy'n hoffi chwarae practical jokes ar oedolion. Un enghraifft ydi tricio hen, hen Nain Llanrwst i fwyta selsig bach pŵ defaid mewn parti (ia, y math yna o stori yw hon!).
Teyrnas Kenzuke - Michael Morpurgo (addas. Elin Meek)
Dyma un o fy ffefrynnau gan yr awdur, sydd wedi ei drosi i'r Gymraeg yn llwyddiannus. Gyda llinell gyntaf fel hyn - 'Diflannais y noson cyn fy mhen-blwydd yn ddeuddeg oed' - mae'n rhaid dal ati i ddarllen.
Pan mae Meilyr yn deffro ar lan ynys anghysbell ar ôl syrthio oddi ar gwch, mae brwydr o'i flaen er mwyn goroesi. Heb fwyd na diod ac o dan haul crasboeth, mae Meilyr yn barod i farw - ond - ydi o ar ei ben ei hun tybed? Dyma nofel deimladwy dros ben sy'n cynnwys elfennau o ddaearyddiaeth, natur ac ychydig o hanes yr Ail Ryfel Byd. Rhybudd - dagrau'n debygol!
Dirgelwch yr Ogof - T Llew Jones
Cyhoeddwyd Dirgelwch yr Ogof yn 1977 ac mae hi'n dal i hudo darllenwyr ifanc a hŷn i fyd llawn cyffro a pherygl ar arfordir gwyllt Ceredigion.
Mae pentref Cwmtydu yn llawn cyfrinachau. Beth yw'r sŵn sydd i'w glywed yn Ogof y Lleisiau? Pwy yw'r ffigwr dirgel â chlogyn sy'n glytwaith i gyd? Dyma nofel antur hanesyddol am smyglwyr, caredigrwydd a rhamant gan Y Brenin ym Myd Llenyddiaeth Plant Cymru. Mae ffilm hefyd ar gael ar S4C Clic, dolen allanol.
Plentyn y Stryd - Berlie Doherty (addas. Dafydd Morse)
Addasiad Cymraeg o Streetchild yw Plentyn y Stryd. Stori yw hon sydd wedi ei lleoli yn Oes Fictoria, ac yn dilyn hanes bachgen ifanc sy'n cael ei wneud yn ddi-gartref ac yn amddifad ar yr un pryd. Mae bywyd yn anodd i fachgen tlawd ar strydoedd Llundain, ac mae pethau'n waeth byth yn y wyrcws.
Dyma stori drist, sy'n cyffwrdd ar hanes go iawn sefydlydd yr elusen Dr Barnardo.
Sothach a Sglyfath - Angharad Tomos
Dyma stori ysbrydion hwyliog, llawn dychymyg o'r gyfres hynod boblogaidd, Cled. Mae hogyn bach o'r enw Sniffyn yn cael ei gipio i gastell oeraidd a'i gadw'n garcharor gan ddau gymeriad ych a fi, sef Sothach a Sglyfath.
Mae'n llyfr llawn hiwmor gyda digon o sôn am fwyta snot a gweiddi ar blant bach! Tybed a fydd Sniffyn yn gallu dianc gyda help ei ffrindiau newydd Hergwd Sgerbwd a Brensiach?
Enillydd gwobr Tir na n-Og 1994.
Bwli a Bradwr - Brenda Wyn Jones
Stori hanesyddol am Streic Fawr Chwarel y Penrhyn wedi'i lleoli yn ardal Bethesda ydi Bwli a Bradwr. Caiff Guto druan drafferth ar iard yr ysgol gan fod Robat, y bwli, am ei waed. Mae Defi, ei fêt, yno i'w amddiffyn ond tybed beth ddaw o'u cyfeillgarwch wrth i'r gymdeithas gael ei hollti'n ddau gan Streic y Chwarel?
Yma ac acw mae'r awdur yn cynnwys pytiau go iawn o lyfrau lòg ysgolion yr ardal sy'n egluro tarddiad yr ymadrodd enwog 'Nid oes Bradwr yn y Tŷ Hwn.'
Cymru ar y Map - Elin Meek
Nid pawb sy'n mwynhau darllen nofelau ffuglen, ac mae'r atlas lliwgar yma, sydd wedi ei ddarlunio'n effeithiol gan Valériane Leblond, yn cynnig rhywbeth gwahanol. Mae oriau o waith darllen ffeithiau diddorol yma - gallwch ddarganfod rhywbeth newydd am eich ardal eich hun neu ddysgu am siroedd eraill Cymru.
Gallwch ei ddarllen yn hamddenol er pleser, neu ei ddefnyddio at bwrpas ymchwil yn yr ysgol. Mae'n lyfr amlbwrpas sy'n addas iawn fel llyfr maint mawr.
Llyfr Adar Mawr y Plant - Onwy Gower
Dyma i chi lyfr lliwgar a ffres sy'n cynnwys ffeithiau diddorol, lluniau a cherddi am 50 o adar Cymru. Mae'r awdur - sy'n ddisgybl blwyddyn 6 ei hun - wedi bod yn brysur iawn yn casglu gwybodaeth a thynnu ffotograffau o'r adar mewn gwarchodfeydd RSPB.
Caiff y llyfr hwn ei argymell gan frenin byd natur Cymru ei hun, Iolo Williams, felly mynnwch gopi, ewch i nôl pâr o finocwlars a chlipfwrdd a mentrwch allan i'r ardd i weld be' welwch chi.
Mwynhewch y darllen!
Hefyd o ddiddordeb: