Covid-19: Jamie Roberts yn dychwelyd adref o Dde Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts yn dychwelyd adref o Dde Affrica gan hedfan o'r wlad cyn i gyfyngiadau llym ddod i rym yna mewn ymateb i'r pandemig coronafeirws.
Ymunodd Roberts, sydd hefyd wedi cymhwyso fel meddyg, â chlwb Stormers ym mis Ionawr, yng nghanol ei ail dymor gyda Chaerfaddon.
Dywedodd ar ei gyfrif Twitter mai'r peth gorau oedd "bod adref yn y DU yn ystod y cyfnod digynsail yma".
Roedd wedi chwarae 10 gêm i'w dîm newydd cyn y penderfyniad i ohirio gemau cynghrair Super Rugby.
Llwyddodd y canolwr i gael lle ar hediad o'r wlad oriau cyn i'r rheolau newydd ddod i rym am 00:00 nos Iau, 26 Mawrth.
Mewn sylwadau ar 21 Mawrth, dywedodd Roberts y byddai'n hunan ynysu am bythefnos petai'n dychwelyd i'r DU.
Mae eisoes wedi gadael i feddyg y GIG aros yn ei fflat yng Nghaerdydd fel rhan o'r ymdrech i fynd i'r afael â'r haint.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2020