Gwirfoddolwr o Aberystwyth yn gorfod gadael Malawi

  • Cyhoeddwyd
MalawiFfynhonnell y llun, Siwan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Siwan Davies o Aberystwyth a'i ffrindiau newydd ym Malawi

Yn sgil haint coronafeirws, mae nifer o elusennau wedi galw eu gwirfoddolwyr yn ôl adref - yn eu plith Siwan Davies o Aberystwyth a oedd newydd deithio i weithio am gyfnod ym Malawi ar ran elusen Tearfund.

Cyn mynd, roedd Siwan wedi bod yn hynod brysur yn codi arian ar gyfer ei thaith ac fe gyrhaeddodd Malawi bythefnos yn ôl ond wythnos yn ddiweddarach wedi i haint coronafeirws ledu ar draws y byd, cafodd wybod ei bod yn gorfod gadael.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg BBC Radio Cymru ddydd Sul, dywedodd Siwan ei bod wedi edrych ymlaen gymaint i weithio yn Affrica yn ystod ei blwyddyn gap.

"Roedd y cynllun yma gyda Tearfund, wir yn apelio," meddai "gan ei fod yn ein hannog ni fel gwirfoddolwyr i helpu pobl i fod yn annibynnol.

"Nid dim ond rhoi pethau i bobl ond eu dysgu."

Ffynhonnell y llun, Siwan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Siwan wedi gobeithio gwirfoddoli am dri mis ond bu'n rhaid iddi ddychwelyd ar ôl wythnos yno

"Ro'n yn gwybod hefyd fy mod eisiau gweithio gyda phlant ac roedd gweithio gyda phlant amddifad ym Malawi, wir yn apelio.

"Maen nhw yn dweud bod Malawi yn un o wledydd hapusaf y byd, er ei bod yn un o'r rhai tlotaf, ac roeddwn i eisiau dod i weld a phrofi hynna," ychwanegodd.

Doedd Siwan erioed wedi teithio mewn awyren o'r blaen a doedd hi ddim yn disgwyl y byddai'n teithio mewn awyren ddiwrnodau wedi iddi gyrraedd.

'Mor siomedig'

Ychwanegodd: "Roeddwn i mor siomedig ond doedd dim dewis arall gan yr elusen ac roedden ni'n deall hynny fel tîm ond 'nath llawer ohonom grio am ychydig.

"Doedden i wir ddim am adael - roedd y gwaith roedden ni fel gwirfoddolwyr fod i wneud yn swnio'n anhygoel.

"Roedden i hefyd newydd ddod i adnabod dwy arall o'r tîm yn dda - un o Awstralia ac un arall o Seland Newydd.

Dim ond wythnos fu Siwan yno ond mae'r argraff a'r ymdrechion i helpu pobl yn y wlad wedi creu cryn argraff arni.

Ffynhonnell y llun, Siwan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd hi'n freuddwyd gan Siwan weithio gyda phlant amddifad

"Mi oedd y wlad gymaint mwy nag oeddwn i wedi'i ddisgwyl -roedd y gwaith y mae'r elusennau yn ei wneud yn anhygoel ac roeddwn i mor ffodus i gael gweld hynna.

"Roedd y tlodi yn amlwg iawn ond o ran yr amgylchedd, roedd hi mor wyrdd yno - roeddwn wedi disgwyl lle llawer iawn mwy anial. Mae'n wlad mor brydferth ac mi o'dd y bobl yn hyfryd ac mor gynnes," meddai.

Mae elusen Tearfund wedi dweud y bydd Siwan yn gallu mynd yn ôl am dri mis rhywdro eto ac y mae'n gobeithio y bydd hynny'n bosib cyn iddi fynd i Brifysgol fis Medi nesaf.

"Gobeithio yn wir, fe fyddai hynny yn hyfryd ac yn gyfle i fi wireddu fy mreuddwyd," ychwanegodd Siwan.