Dau blismon yn cael eu hanafu wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar o bobl - gan gynnwys dau heddwas gyda Heddlu Gwent - wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad yng Nghasnewydd brynhawn Sul.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans a'r frigâd dan eu galw i Ffordd Cas-gwent yng Nghasnewydd am 14:00 yn dilyn adroddiadau bod dau gar wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Fe gadarnhaodd Heddlu Gwent bod un o'r ceir yn gar yr heddlu, a'u bod yn "ymateb i alwad frys adeg y gwrthdrawiad".
Dywedon nhw hefyd bod yn dau heddwas wedi cael eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ond nid rhai sy'n peryglu bywyd.
Cafodd dyn a oedd yn y car arall fân anafiadau, ac fe gafodd e ei gludo i'r ysbyty hefyd.
Cafodd cerddwr a oedd yn digwydd pasio fân anafiadau ar ôl i'r ceir daro yn erbyn wal gardd tŷ yn ystod y gwrthdrawiad.
Mae'r heddlu'n apelio ar i unrhyw un a welodd unrhyw beth, neu sydd â deunydd camerâu yn eu ceir, i gysylltu â nhw.