Cyfyngiadau teithio yn peryglu triniaeth tiwmor

  • Cyhoeddwyd
Eva WilliamsFfynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eva Williams yn gobeithio cael triniaeth yn yr Unol Daleithiau

Mae coronafeirws yn bygwth gobeithion merch naw oed o gael triniaeth ar gyfer math prin o diwmor ar yr ymennydd.

Cafodd Eva o Wrecsam ddiagnosis o'r cyflwr DIPG Ddydd Calan.

Roedd ei rhieni Paul Slapa a Carran Williams wedi llwyddo i gasglu rhan helaeth o'r £250,000 sydd ei angen ar gyfer y driniaeth yn yr Unol Daleithiau ond mae'r haint nawr yn peryglu eu gobeithion.

Mae yna bryder hefyd ynglŷn â'r cyfyngiadau ar hedfan i'r Unol Daleithiau.

"Rwy'n gobeithio nad yw coronafeirws wedi chwalu un o'n hopsiynau olaf," meddai Mr Slapa.

Y prognosis o oroesi'r math yma o diwmor yr ymennydd yw rhwng wyth a 12 mis.

Ar ôl dim ond tair wythnos o lansio apêl ar-lein i godi'r arian, roedd y teulu wedi llwyddo i godi £218,000.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Eva gyda'i thad Paul a'i brawd bach

Roedd y teulu yn gobeithio cyrraedd eu targed er mwyn cynnal profion clinigol ar gyfer y driniaeth yn Efrog Newydd erbyn diwedd Ebrill.

Ond mae pandemig y coronafeirws wedi arwain at ohirio'r rhan fwyaf o'r ymdrechion i godi arian.

Dywedodd Mr Slapa: "Mae caredigrwydd pobl wedi bod yn anhygoel, hyd yn oed pobl nad ydan ni yn eu hadnabod.

"Ond mae nifer o weithgareddau codi arian oedd wedi eu trefnu wedi gorfod stopio.

Angen codi mwy o arian

Ffynhonnell y llun, LLUN TEULU
Disgrifiad o’r llun,

Eva yn cael triniaeth radiotherapi

"Fe wnaeth triniaeth radio therapi Eva ddod i ben tua chwe wythnos yn ôl.

"Fe ddywedodd ei hymgynghorydd yn Ysbyty Alder Hey ei bod hi dal yn gymwys unwaith bod ni'n gallu teithio.

"Ond heb yr arian bydd dim modd i ni ei drefnu beth bynnag.

"Gallwn ond gobeithio nad yw coronafeirws yn chwalu un o'n hopsiynau olaf i achub ein merch fach."

Dywedodd Hugh Adams o'r elusen Brain Tumour Research: "Rydym yn meddwl am Eva a'i theulu ar yr amser ofnadwy yma, ac yn annog unrhyw un sydd wedi eu cyffwrdd gan ei stori i gefnogi ymgyrch y teulu."