Eisteddfod: Ateb cwestiynau o'r cystadlu i'r carafanio
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuwyr brwd yng nghystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn gwybod bod disgwyl i gyfansoddiadau llenyddol y brifwyl gyrraedd y swyddfa erbyn Ebrill y cyntaf a dyw eleni ddim yn eithriad er bod yr eisteddfod wedi cael ei gohirio.
Mewn cylchlythyr cynhwysfawr, mae swyddogion y brifwyl yn dweud "rydym wedi penderfynu casglu pob cais ynghyd a'u cadw dan glo am flwyddyn cyn eu hanfon at y beirniaid ym mis Ebrill 2021. Dyma'r ffordd orau a thecaf i weithredu.
"Ni fyddai'n deg i ni dderbyn rhagor o geisiadau ar ôl y dyddiad cau, gan fod pawb sydd eisoes wedi cystadlu wedi cadw at y terfyn amser gwreiddiol. Yr un yw'r drefn gyda'r cystadlaethau yn yr adran Celfyddydau Gweledol.
Dim cystadlaethau cyfansoddi dros y flwyddyn nesaf
"Mae hyn yn golygu na fyddwn yn cynnal cystadlaethau cyfansoddi dros y flwyddyn nesaf, ond diolch i bawb sydd wedi cystadlu eleni, a phob lwc pan fydd y broses yn ail-gychwyn ymhen y flwyddyn."
Mae dyddiau cau'r prif gystadlaethau rhyddiaith eisoes wedi bod a'r beirniaid wedi bod wrthi yn darllen ers yr hydref.
Ond mae'r Eisteddfod yn dweud nad oes achos i boeni os nad oes modd i bobl anfon eu cyfansoddiadau drwy'r post - gan bod modd gwneud hynny yn ddigidol dros y we.
Carafan, Maes B, Stondin?
Mae swyddogion hefyd wedi ateb nifer o gwestiynau am y maes carafanau, maes B a stondinau. Dyma rai o'r cwestiynau a'r atebion.
Rydw i wedi archebu lle ar y maes carafanau. Beth sy'n digwydd i fy safle?
Peidiwch â phoeni, mae eich safle ar y maes carafanau'n gwbl ddiogel. Yn syml, bydd eich archeb yn cael ei symud o 2020 i 2021. Ni fydd angen i chi ail-archebu ym mis Chwefror 2021. Os nad yw hyn yn bosibl i chi ddod cysylltwch â ni drwy ebostio gwyb@eisteddfod.org.uk cyn 30 Medi 2020.
Rydw i eisiau cystadlu ond yn methu postio cyfansoddiadau mewn pryd. Beth ddyliwn i wneud?
Peidiwch a phoeni, does dim angen mynd allan i bostio cyfansoddiadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion mewn blwch post.
Cysylltwch â ni er mwyn gwneud trefniadau i gyflwyno'ch cais yn ddigidol. Ebostiwch lois@eisteddfod.org.uk ac fe fyddwn yn anfon cyfarwyddiadau atoch er mwyn i chi allu cyflwyno'ch cais yn ddiogel.
Rydym am eich helpu i gyflwyno'r gwaith yn y ffordd fwyaf syml a diogel i bawb.
Rydw i wedi archebu stondin ac wedi talu blaendal. Beth sy'n digwydd?
Peidiwch â phoeni, mae eich stondin ar y Maes yn gwbl ddiogel, os ydych wedi talu'r blaendal neu dalu'n llawn. Yn syml, bydd eich taliad yn cael ei symud o 2020 i 2021. Ni fydd angen gwneud cais eto yn 2021. Rydym yn mawr obeithio y byddwch yn cefnogi'r Eisteddfod drwy barhau â'ch cais ar gyfer stondin, ond os nad yw hyn yn bosibl, cysylltwch â ni cyn 30 Medi 2020 am ad-daliad.
Rydw i wedi archebu tocyn ar gyfer Maes B 2020 ac wedi talu amdano. Beth sy'n mynd i ddigwydd i hyn?
Mae gennych chi nifer o opsiynau. Gallwch naill ai gyfnewid eich taliad gwreiddiol am docyn ar gyfer Maes B yng Ngheredigion yn 2021, gofyn am ad-daliad, neu gallwch gynnig y taliad fel rhodd i'r Eisteddfod yn ystod y cyfnod anodd hwn. Byddwn yn anfon gwybodaeth allan at bawb sydd wedi archebu tocyn gyda manylion pellach am bob un o'r opsiynau hyn.
Rydw i wedi cofrestru i gystadlu mewn cystadleuaeth lwyfan yng Ngheredigion. Beth sy'n digwydd?
Mae gennych chi amryw o ddewisiadau. Rydyn ni wedi ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan Eisteddfod Ceredigion hyd at 1 Mai 2021. Felly gallwch adael eich cais i mewn tan y flwyddyn nesaf, neu cysylltwch â ni wneud cais am ad-daliad o'ch ffi gofrestru drwy ebostio cystadlu@eisteddfod.org.uk erbyn 30 Medi 2020 ac ymgeisio eto ymhen y flwyddyn.
Os ydych chi wedi cofrestru i gymryd rhan mewn cystadleuaeth sydd â'r dyddiad cau eisoes wedi pasio (Actio Drama Fer, Brwydr y Bandiau a Dysgwr y Flwyddyn), peidiwch â phoeni, mae eich cais yn gwbl ddiogel. Byddwn yn dal gafael yn eich ceisiadau tan y flwyddyn nesaf, a bydd y cystadlaethau yma'n parhau ar agor tan hynny. Byddwn yn cyhoeddi manylion y dyddiadau cau newydd ar ein gwefan.
Fe fydda i mewn cwmpas oedran gwahanol y flwyddyn nesaf, beth ddylwn i wneud?
Peidiwch â phoeni. Os ydych wedi cofrestru'n barod ac yn gwybod y bydd rhaid cystadlu o fewn cwmpas oedran gwahanol y flwyddyn nesaf, cysylltwch â ni drwy ebostio cystadlu@eisteddfod.org.uk, a gallwn symud eich cais i'r gystadleuaeth gyfatebol yn y cwmpas oedran cywir.
Mae trefnwyr Eisteddfod Ceredigion hefyd yn awyddus i sicrhau bod yr holl arian a godwyd yn lleol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn parhau i fynd tuag at yr Eisteddfod yn Nhregaron ymhen y flwyddyn.
Dywed y cylchlythyr: "Rydym yn mawr obeithio y bydd modd ail-gydio yn yr ymgyrchu wyneb yn wyneb yn fuan, ond am y tro, mae'n bwysig ein bod ni'n cymryd sylw o'r cyngor sydd wedi'i roi gan arbenigwyr meddygol a'r Llywodraeth.
"Ar hyn o bryd, mae'n bwysig ein bod ni'n canolbwyntio unrhyw gyswllt cymdeithasol ar helpu ein gilydd, ac rydym yn sicr y bydd nifer fawr o'n cefnogwyr ar lawr gwlad yn mynd ati i gefnogi a chynnig cymorth i rai sy'n fwy bregus o fewn ein cymdeithas.
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal o 31 Gorffennaf - 7 Awst 2021 yn Nhregaron ar yr un maes.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2020