Rhybudd deintyddion y gall cleifion 'golli dannedd'

  • Cyhoeddwyd
DeintyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae deintyddion yn dweud fod prinder offer diogelwch personol (PPE) yn golygu y bydd pobl yn colli dannedd yn ystod pandemig coronafeirws, allai fod wedi eu hachub fel arall.

Fe wnaeth byrddau iechyd Cymru sefydlu canolfannau deintyddiaeth argyfwng wedi i ddeintyddfeydd y stryd fawr orfod cau fel rhan o'r mesurau i daclo coronafeirws.

Ond mae'r pwyllgor sy'n cynrychioli deintyddion yng Nghymru yn dweud nad oes gan y canolfannau ddigon o offer diogelwch, felly yn hytrach na chyfeirio cleifion at lawdriniaeth ddeintyddol maen nhw ond yn gallu cynnig cyffuriau atal poen neu wrthfiotig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod darparu PPE cywir i ddeintyddion yn flaenoriaeth, ond fod "holl ofal deintyddol arferol wedi cael ei ganslo am y tro".

'Gwell achub dant neu fywyd?'

Yn ôl Tom Bysouth, cadeirydd pwyllgor cyffredinol deintyddion Cymru, mae'r aelodau yn wynebu cyfyng gyngor gan nad oes digon o PPE i gadw gweithwyr deintyddol yn ddiogel.

Ychwanegodd fod defnyddio driliau, chwistrellwyr a pheiriannau sugno yn y geg yn creu'r "awyrgylch delfrydol i ledaenu coronafeirws", sydd wedyn yn gallu heintio aer y ddeintyddfa am hyd at ddiwrnod cyfan.

Gall ei gleifion yn ardal Llanymddyfri a Llandeilo barhau i ffonio am gyngor os ydy'r ddannodd arnyn nhw, ond ym mhob achos bron, y cyfan y gall wneud yw cynnig presgripsiwn am feddyginiaeth.

"Rhaid i ni ystyried y sefyllfa yn gyffredinol am PPE a beth yw'r defnydd gorau o'r offer yna, gan gofio peidio lledaenu'r feirws wrth drin ein cleifion," meddai.

"Ond yn y pendraw, y cwestiwn yw a yw'n well achub dant neu achub bywyd?"

Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau holi'n fras am ddeintyddion i ddechrau gweithio mewn ysbytai os fydd y gwasanaeth iechyd dan ei sang gyda chleifion coronafeirws.

'Defnyddies i Blu Tack!'

Mae'r diffyg deintyddion yn ystod yr argyfwng wedi arwain rai at orfod eu trin eu hunain.

Dywedodd Marilyn Jones o Aberystwyth ei bod wedi colli rhan o'i dant, a'i bod wedi defnyddio Blu Tack i'w gadw mewn lle.

Ffynhonnell y llun, Marilyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Pwy a ŵyr pryd fydd y deintydd ar gael nawr," medd Marilyn Jones

"Daeth crown bant o'n nant i y diwrnod ar ôl iddyn nhw [deintyddfeydd] gau," meddai.

"Ffonies i a ddwedon nhw 'ni ond yn rhoi sylw i bobl sydd mewn poen dychrynllyd'.

"O'n i ddim yn y categori 'na, felly roedd bach o Blu Tack 'da fi, so sticies i fe lawr gyda bach o hwnnw!

"Es i Boots i brynu un o'r repair kits 'ma ac mor belled, mae fe'n aros mewn, ond pwy a ŵyr pryd fydd y deintydd ar gael nawr i ni sortio fe mas."

Mewn llythyr at brif weinidog Cymru, mae Lowri Myrddin - arbenigwr ar lawdriniaeth y genau a'r wyneb yng Nghaerdydd - yn dweud bod cyflenwadau yn prysur ddiflannu gyda'r potensial am effeithiau trychinebus ar staff gofal iechyd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn adolygu'r gofynion am offer diogelwch yn barhaus fel bod modd ei ddosbarthu "i ble mae'r angen mwyaf".

Maen nhw wedi cynnig pecyn o gymorth i ddeintyddion y GIG sydd wedi gorfod cau eu deintyddfeydd.

Ond dywedodd Mr Bysouth: "Po fwyaf y cyfnod na all cleifion gael triniaeth arferol gan ddeintydd, yna bydd yr ôl-groniad o broblemau deintyddol sydd heb eu trin yn fwy o broblem."