Coronafeirws ddim am ddifetha dathliadau'r 70

  • Cyhoeddwyd
Priodas
Disgrifiad o’r llun,

Diwrnod priodas Ernest ac Eileen Roberts ar 1 Ebrill 1950

Mae cwpl o Sir Ddinbych yn benderfynol o beidio gadael i argyfwng coronafeirws ddifetha'u dathliadau ddydd Mercher, wrth iddyn nhw ddathlu 70 mlynedd o briodas.

Fe wnaeth Ernest ac Eileen Roberts o bentref Cadole briodi yn eglwys Sant Berres yn Llanferres, Sir Ddinbych ar 1 Ebrill 1950 cyn mynd ar eu mis mêl am wythnos i'r Rhyl.

Bydd Ernest ac Eileen, y ddau yn 95 oed, yn treulio'u pen-blwydd priodas yn eu cartref ers dros 50 mlynedd yng Nghadole, ger Yr Wyddgrug.

Bydd eu tair merch, saith o wyrion ac wyresau ac 11 o or-wyrion a gor-wyresau - pob un yn byw yn lleol - yn ffonio ac yn chwifio dwylo drwy'r ffenest oherwydd y cyfyngiadau presennol ar gyfarfod.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eileen ac Ernest yn dathlu eu pen-blwyddi yn 96 eleni

Wrth siarad ar ran y ddau, dywedodd un o ferched y cwpl, Lynda Layfield na fyddan nhw'n gadael i'r argyfwng ddifetha'r achlysur.

"Bydd pawb yn dod at ei gilydd pan fydd hyn ar ben ar gyfer parti teuluol mawr," meddai.

"Dyw mam a dad ddim yn gadael y tŷ rhyw lawer beth bynnag erbyn hyn, ac mae fy chwaer sy' wedi ymddeol yn byw drws nesa' iddyn nhw.

"Mae fy chwaer arall yn byw i fyny'r ffordd yng Ngwernymynydd. Ry'n ni wastad wedi bod yn deulu agos."

'Mor falch ohonyn nhw'

Dywedodd Lynda fod priodas ei mam a'i thad wedi cael ei symud ymlaen am resymau treth!

"Y dyddiau hynny os oeddech chi'n priodi ar ôl dyddiad penodol, ond cyn diwedd 1 Ebrill, roeddech chi'n cael ad-daliad treth o ryw £30... oedd yn lot o arian bryd hynny!" meddai.

"Roedd y seremoni yn eglwys Sant Berres a'r brecwast priodas yn y Druids Inn, ond roedd dogni bwyd yn dal mewn grym ar gyfer rhai pethau wedi'r rhyfel.

"Fel teulu ry'n ni mor falch ohonyn nhw, ac mae cyrraedd 70 mlynedd o briodas yn anhygoel.

"Nhw ydy'r rhieni gorau y gallai rhywun ddymuno eu cael, ac mae'r teulu cyfan mor falch drostyn nhw."