Byddai profion feirws 'wedi gwneud gwahaniaeth'

  • Cyhoeddwyd
Coronavirus testing equipmentFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y gweinidog y bydd modd cynnal 1,100 o brofion y dydd yng Nghymru'r wythnos hon

Does "dim dianc rhag y ffaith" y byddai mwy o brofion coronafeirws "wedi gwneud gwahaniaeth cynnar", yn ôl gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething.

Daeth i'r amlwg dros y penwythnos fod cytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni preifat i ddarparu 5,000 o brofion ychwanegol bod diwrnod wedi dymchwel.

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn "siomedig" fod cwmni wedi methu â chwblhau cytundeb oedd ar bapur.

Ddydd Mawrth mewn cynhadledd newyddion pan ofynwyd i Mr Gething ai cwmni Roche oedd yn gyfrifol, gwrthod enwi'r cwmni..

Dywedodd Mr Gething: "Mae'r cwmni wedi gwneud penderfyniad nad oeddynt yn gallu cwblhau'r cytundeb a wnaed.

"Pe bai fi'n sôn ymhellach am hyn, yna byddwn yn dechrau dadl am y cytundeb, a ddim yn treulio amser yn gwneud be dwi'n meddwl y dylwn ei wneud - paratoi ein gwasanaeth iechyd ar gyfer yr her sy'n ein hwynebu nawr ac sy'n cynyddu yn ddyddiol."

Ond mae'r cwmni fferyllfaol o'r Swistir yn dweud "nad yw wedi cael unrhyw gytundeb na dealltwriaeth uniongyrchol gyda Chymru i gyflenwi profion ar gyfer COVID-19".

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething: 'Fe fydd cwestiynau yn cael eu holi yn y dyfodl am y cytundeb'

Dywedodd Roche wrth BBC Cymru: "Mae'r dosbarthu led led y DU yn cael ei gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

"Mae gan Roche gytundeb gyda llywodraeth y DU i gynyddu profion ar hyd y DU, gan gynnwys Cymru."

Ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth, fe wnaeth Mr Gething gyhoeddi y byddai gan Gymru y gallu i ddarparu 6,000 o brofion yn ddyddiol erbyn 1 Ebrill, ac 8,000 o fewn wythnos,

Yn y gynhadledd ddydd Mawrth fe wnaeth Mr Gething gadarnhau na fyddai hynny'n digwydd oherwydd na fyddai'r cytundeb yn cael ei wireddu.

Ond ychwanegodd: "Yr wythnos hon fe fyddwn yn bwrw ymlaen gyda dros 1,100 o brofion dyddiol yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Adam Price: "Fe allai nifer mawr o fywydau fod mewn mwy o risg."

Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, fod y newyddion yn golygu "y bydd Cymru hyd yn oed ym mhellach y tu ôl iddi o ran profion angenrheidiol".

"Mae amser gwerthfawr wedi ei golli ac fe allai nifer fawr o fywydau fod mewn mwy o risg," meddai.

Dywedodd Mr Gething ei fod yn derbyn y byddai "cwestiynau" yn cael eu gofyn ar ôl i'r argyfwng ddod i ben, ond ar hyn o bryd roedd ei ffocws ar wynebu'r her o'r cyfnod anodd sydd i ddod.

Ychwanegodd fod Llywodraeth Cymru nawr yn gweithio gyda chwmnïau preifat arall a'r sector prifysgolion er mwyn cynyddu capasiti.

Wrth gyferio at faterion eraill dywedodd y gweinidog fod dros 1,300 o weithwyr iechyd a gofal sydd wedi ymddeol wedi cytuno i ddod nol i'w gwaith er mwyn helpu'r gwasanaeth iechyd.

Dywedodd fod y ffigwr yn cynnwys 670 o ddoctoriaid, a dros 400 o nyrsus a bydwragedd.

Ychwanegodd fod dros fil o bobl bod diwrnod hefyd yn gwirfoddoli i gefnogi eu cymunedau - a bod bron i 22,000 wedi cytuno i fod yn wirfoddolwyr.