Coronafeirws: Cyhoeddi cronfa £7m i'r celfyddydau

  • Cyhoeddwyd
Paent

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi eu bwriad i agor 'cronfa ddycnwch' er mwyn diogelu celfyddydau Cymru rhag effaith argyfwng coronafeirws.

Bydd y gronfa werth £7m ac fe fydd yn cael ei sefydlu ar y cyd rhwng y cyngor a Llywodraeth Cymru, gyda'r cyngor yn rheoli'r gronfa.

Bydd yr arian ar gyfer unigolion a sefydliadau ac fe fydd y manylion llawn yn cael eu cyhoeddi ar 7 Ebrill.

'Lleddfu caledi'

Mewn datganiad, dywedodd cadeirydd y cyngor, Phil George: "Drwy gronfa ddycnwch y celfyddydau, bydd £7 miliwn ar gael i'r sefydliadau a'r unigolion hynny sydd eu hangen fwyaf.

"Datrys argyfwng ariannol a lleddfu caledi fydd ein tasg gyntaf.

Ffynhonnell y llun, BAFTA
Disgrifiad o’r llun,

Phil George ydy cadeirydd Cyngor y Celfyddydau

"Rydym ni eisoes wedi llacio'r gofynion ariannu i sefydliadau ac unigolion sydd â'n grantiau, fel y gallant ymateb yn hyblyg i'r anawsterau newydd. Ond heddiw awn ni gam ymhellach.

"Bydd cronfa ddycnwch y celfyddydau yn pontio'r bwlch rhwng yr argyfwng presennol a'r dyfodol o weithgarwch creadigol newydd ar ôl coronafeirws. Ac mae'r dyfodol eisoes yn ysgogi dychymyg ein cymuned artistig."

'Pecynnau ariannol'

Dywedodd prif weithredwr y cyngor, Nick Capaldi: "Mae cronfa ddycnwch y celfyddydau yn ymuno â'r pecynnau ariannol a gyhoeddwyd yn barod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth Prydain.

"Ein tasg yw gwneud cyfleoedd y gronfa'n glir a hawdd eu deall. Rydym ni'n gweithio ar frys i lunio'r manylion ymarferol. Rydym ni'n gwybod o'r gorau bod y sector yn awyddus i gael manylion pendant.

"Ond gobeithio y bydd pawb yn deall mai diwrnod neu ddau ychwanegol fydd yn sicrhau'r canlyniad gorau i bawb yn y pen draw. Felly ddydd Mawrth 7 Ebrill bydd yr holl fanylion ar gael."