Athletwyr yn anhapus wedi i ddigwyddiad gael ei ganslo

  • Cyhoeddwyd
Long Course WeekendFfynhonnell y llun, Dr Chris Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Long Course Weekend yn denu rhyw 10,000 o gystadleuwyr fel arfer

Mae cystadleuwyr wedi cwyno i adran safonau masnach Cyngor Sir Penfro ar ôl i ddigwyddiad chwaraeon yn Ninbych-y-Pysgod gael ei ganslo heb gynnig ad-daliad llawn na opsiwn i gymryd rhan yn nigwyddiad blwyddyn nesaf.

Mae pawb oedd wedi bwriadu cystadlu wedi cael cynnig ad-daliad rhannol yn unig.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am benwythnos Long Course Weekend Wales ym mis Gorffennaf - Activity Wales Events - yn dweud eu bod yn gwybod bod canslo'n 'siom chwerw' i nifer, ond ei bod hi'n amhosib cynnig ad-daliad llawn.

Mae'r penwythnos yn denu dros 10,000 o gystadleuwyr a hyd at 40,000 o gefnogwyr.

Mae athletwyr yn medru cwblhau cwrs nofio dros ddwy filltir o hyd ar y dydd Gwener, cwrs beicio dros 100 milltir ar y dydd Sadwrn a marathon llawn ar y dydd Sul.

Termau ac amodau

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y trefnwyr na fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal eleni oherwydd effeithiau'r pandemig coronafeirws.

Mae athletwyr wedi cael cynnig ad-daliad o 50% ond fydd yna ddim hawl defnyddio eu cais ar gyfer eleni i gystadlu blwyddyn nesaf.

Mae rhai'n honni fod termau ac amodau cystadleuwyr wedi cael eu newid ar ôl y cyhoeddiad am ganslo'r digwyddiad, honiad mae'r cwmni yn ei wadu.

Mae'r sefyllfa wedi gwylltio rhai cystadleuwyr fel Dr Chris Joseph o Gaerffili, wnaeth dalu £250 ym mis Gorffennaf 2019.

Mae e'n un o'r rhai sydd wedi cwyno i Gyngor Sir Penfro.

Dr Chris JosephFfynhonnell y llun, Dr Chris Joseph
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Dr Chris Joseph ei fod heb gael esboniad gan y cwmni ynghylch eu cynnig i athletwyr

"Mae'n lot o arian, yn enwedig ar yr amser 'ma," dywedodd.

"Doedd dim esboniad ble roedd y 50% maen nhw'n cadw wedi mynd.

"'Dwi wedi dweud bod fi ddim yn derbyn y 50% i setlo'r arian ac maen nhw wedi tynnu'r cynnig nôl.

"Maen nhw wedi newid termau y contract ar ein cyfrifon ac fy ffrindiau i, a ti ffaelu neud hynny.

"Mae'r clause 4.1 yn y contract gwreiddiol, sydd yn ymwneud â Force Majeure [amgylchiadau amhosib eu rhagweld sy'n atal rhywun rhag gweithredu'r hyn sydd mewn cytundeb] yn esbonio yn glir bod rhaid ail-drefnu a dy' nhw ddim yn gwneud hynny.

"Maen nhw yn breach of contract."

Mike Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Talodd Mike Phillips £200 i gymryd rhan

Mae Mike Phillips o Gaerdydd yn un arall sydd wedi colli arian, ar ôl talu £200 i gymryd rhan.

"Roeddwn i yn disgwyl iddyn nhw ail-drefnu'r digwyddiad, neu rhoi'r hawl i ni gystadlu blwyddyn nesaf," meddai.

"Mae yna lot fawr o gystadleuwyr sydd yn flin iawn. 'Dwi wedi sgwennu at Activity Wales Events ac fe ges i ymateb swta iawn.

"Mae yna filoedd o bobl wedi cael eu heffeithio gan hyn."

Mewn datganiad mae Activity Wales Events yn gwadu eu bod wedi newid telerau'r amodau am ganslo digwyddiad ac ad-daliadau.

"Rydym ni'n gwybod bod ein penderfyniad i ganslo yn sgil epidemic y Coronafeirws yn siom chwerw i nifer o'r cystadleuwyr, ond fe gyfathrebom ein penderfyniad cyn gynted ag oedd hynny'n bosib," medd Matthew Evans, Prif Weithredwr LCW Global.

Mae'n dweud bod y digwyddiad yn cymryd blwyddyn gyfan i'w threfnu, ac nad oedd yn bosib ail-drefnu. O ran ad-daliad, mae'r cwmni'n dweud bod yr amodau gwreiddiol yn golygu nad oedd rhaid i'r cwmni gynnig ad-daliad o gwbl dan yr amgylchiadau, ond eu bod yn cynnig 50% fel arwydd o 'ewyllys da.' Maen nhw'n dweud bod nifer o ddigwyddiadau mawr tebyg heb gynnig unrhyw ad-daliad ar ôl canslo.

"Doedd symud yr holl gystadleuwyr i 2021 ddim yn realistig chwaith. Allwn ni fel cwmni ddim adfer ein costau ar gyfer 2020, a byddai cynnig mynediad am ddim y flwyddyn nesaf yn golygu bod rhaid i ni ysgwyddo'r costau y flwyddyn nesaf. Fel busnes teulu, doedd hyn ddim yn ystyriaeth bosib er mwyn sicrhau y bydd modd cynnal y Penwythnos Cwrs Hir eto yn y dyfodol."