Pryder y gall canolfan gelfyddydau yng Nghaerdydd gau

  • Cyhoeddwyd
ChapterFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Chapter yng Nghaerdydd ar gau ar hyn o bryd

Mae pryder y gallai canolfan Chapter yng Nghaerdydd gau yn barhaol yn sgil yr argyfwng coronafeirws.

Mae llywodraeth Cymru a Chyngor y Celfyddydau wedi cyhoeddi cronfa argyfwng gwerth £7m i faes y celfyddydau, ond mae un o ymddiriedolwyr canolfan gelfyddydol Chapter wedi dweud wrth BBC Cymru y gallai gau yn gyfan gwbl.

Yn ôl cwmni drama arall, mae'r sefyllfa bresennol fel "hunllef".

Incwm wedi diflannu

Yn ôl cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chapter, Elin Wyn, does dim sicrwydd y bydd y ganolfan yn ailagor o gwbl.

"Mewn ffordd, 'dan ni'n rhy llwyddiannus - 'dan ni ddim yn dibynnu'n llwyr ar arian cyhoeddus.

"Mae 82% o'n hincwm ni'n dod o bethau fel gwerthu tocynnau, y caffi a'r bar a rhentu stafelloedd a gofod i gwmnïau creadigol... ond mae'r incwm hwnnw i gyd wedi diflannu erbyn hyn."

Er y gall Chapter hawlio cymorth i dalu 80% o gyflogau'r staff sydd ddim yn gweithio ar hyn o bryd, mae 'na weithwyr craidd hefyd ac mae angen talu cyflogau'r rheiny o hyd.

Ansicrwydd a goblygiadau

Cwmni arall sy'n pryderu am y dyfodol yw theatr cymunedol Bara Caws. Ers 40 mlynedd mae wedi bod yn llwyfannu dramâu ar draws Cymru, er mai yng Nghaernarfon mae'r pencadlys.

"Y peth sy'n lladd fwya' ydy'r ansicrwydd," meddai'r rheolwr gweinyddol Linda Brown.

"Mi oedd gynnon ni daith i fod ym mis Mai - Draenen Ddu. Mi oeddan ni'n mynd i deithio i'r neuaddau pentre' ond bu rhaid codi'r ffôn a chanslo pob perfformiad.

"Mi oeddan ni wedi cyflogi actorion a rhoi cytundebau, felly mi oedd 'na oblygiadau i dalu i'r rheini, daith neu beidio."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Linda Brown mai'r "peth sy'n lladd fwya' ydy'r ansicrwydd"

Ychwanegodd: "Mae'r cyfnod yma'n hunlle i bawb ym myd y theatr. Mi oedd gynnon ni daith arall ym mis Medi - y ddrama Fienna gan Siôn Eirian - ond a fyddwn ni'n gwneud honno?

"A fydd pobl yn fodlon dod yn ôl mewn crowd i weld cynhyrchiad ac a fyddan nhw'n gallu fforddio dod i weld sioe? Ond 'dwi yn gredwr mawr fod y theatr yn chwarae rhan fawr mewn iechyd a lles."

Ers pythefnos mae un o atyniadau mwyaf Cymru ym maes y celfyddydau, Canolfan y Mileniwm, wedi bod ar gau.

Mae'r rheolwr gyfarwyddwr, Mathew Milsom, yn rhagweld y gallan nhw golli hyd at £20m o beidio â medru cynnal perfformiadau dros y flwyddyn nesaf.

"Oherwydd ein bod ni ar gau allwn ni ddim codi arian," meddai.

"'Dan ni'n codi 85% o'n hincwm drwy ddulliau masnachol - gwerthu tocynnau, gwario yn y bar.

"Dros y flwyddyn nesa', mi oeddan ni'n disgwyl codi £15-20m drwy werthiant tocynnau, ond does dim sicrwydd o gwbl o hynny bellach. Mae cynyrchiadau'n cael eu canslo ar gyfer yr haf a hyd yn oed yr hydref.

"'Dan ni'n cyflogi 400 o staff -100 ar y safle ac yn cyfrannu £70m i'r economi leol, felly mae cau'n amharu ar economi'r Bae."

Ffynhonnell y llun, Robin Drayton/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai Canolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd golli hyd at £20m

Wrth gyhoeddi'r gronfa £7m brynhawn Mercher, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru mai Cyngor y Celfyddydau fyddai'n ei gweinyddu.

Y nod fydd "cynorthwyo artistiaid unigol a sefydliadau celfyddydol sydd â'r angen mwyaf ac sy'n lleiaf tebygol o elwa o raglenni cymorth eraill".

'Problemau enbyd'

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru fore Iau fe ddywedodd Siân Tomos, cyfarwyddwr menter ac adfywio Cyngor Celfyddydau Cymru, bod yr argyfwng coronafeirws wedi taro'r celfyddydau yn ofnadwy.

"'Dan ni wedi gwneud job mor dda yng Nghymru yn lleihau yn ddibyniaeth ar y pwrs cyhoeddus ond mewn sefyllfa fel hyn lle mae ffynonellau incwm yn cael eu torri dros nos mae'n creu problemau enbyd i'n sefydliadau celfyddydol ni," meddai.

"'Da ni yn dibynnu ar bobl yn prynu tocynnau, paned yn y caffis, felly ry'n ni yn falch o allu cyhoeddi rhyw fath o gyfraniad, maen gyfraniad sylweddol o £7 miliwn, cyfraniad o filiwn gan y llywodraeth a'n adnoddau ni am y chwe mis nesa' i gyd mewn i gronfa i weld a allwn ni oroesi'r cyfnod anodd hyn."