Coronafeirws: Cynllun porthi'r Cofis yn boblogaidd

  • Cyhoeddwyd
bwyd
Disgrifiad o’r llun,

Y bwyd yn barod i gael ei ddosbarthu

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae cannoedd o grwpiau gwirfoddol wedi'u sefydlu yng Nghymru i helpu'r rhai sy'n hunan-ynysu, gyda nifer yn cynnig siopa neu ddosbarthu meddyginiaeth i bobl fregus.

Yng Nghaernarfon, mae cynllun Porthi Pawb wedi dechrau - cynllun sy'n mynd â bwyd cartref i bobl hŷn a bregus y dref.

Syniad y cogydd lleol, Chris Summers, ydy'r cwbl, a gan ei fod yn ddi-waith oherwydd sefyllfa'r feirws, roedd eisiau helpu.

"Prosiect bach 'di o - dwi wedi bod yn meddwl amdano ers bod off gwaith," meddai Chris.

"'Dan ni wedi sylweddoli bod lot o bobl - henoed bregus yng Nghaernarfon - sydd ddim yn gallu mynd allan i nôl bwyd o'r siopau.

"Mae hyn felly yn lleihau'r pwysau ar weithwyr iechyd lleol ac ar y bobl eu hunain."

Disgrifiad o’r llun,

Chris Summers, trefnydd cynllun Porthi Pawb

Ychwanegodd Chris: "Dwi wedi cael ymateb massive - mae cynghorwyr tu allan i Gaernarfon wedi bod yn cysylltu hefo fi yn gofyn os oes modd dosbarthu bwyd i'w wardiau nhw hefyd.

"Mae cynghorwyr lleol wedi helpu fi lot.

"Dwi'n cael g'neud be dwi'n caru g'neud - mae pobl really yn gwerthfawrogi - mae hynna'n deimlad neis."

Cyfraniadau ariannol lleol sydd wedi talu am y bwyd hyd yma, ac mae ffrind Chris, sy'n rhedeg cwmni arlwyo, wedi benthyg cegin iddo dros dro i baratoi'r bwyd.

Dydd Iau oedd y tro cyntaf i gynllun Porthi Pawb ddosbarthu'r bwyd, gyda 50 o bobl yng Nghaernarfon yn cael pecynnau.

Ond, mae llawer mwy o bobl wedi gofyn am help, gyda'r trefnydd yn rhagweld y bydd 100 o enwau ganddo ar y rhestr erbyn yr wythnos nesaf, ac felly mi fydd angen rhagor o wirfoddolwyr wrth i'r cynllun dyfu.