Lladrad 'niweidiol' mewn canolfan rhoddion hosbis
- Cyhoeddwyd
Mae lladron wedi targedu canolfan rhoddion hosbis yn Sir Conwy gan ddwyn nwyddau gwerth miloedd o bunnau.
Fe wnaethon nhw dorri i mewn i safle Hosbis Dewi Sant ym Mochdre, ger Bae Colwyn, tua 10:20 ddydd Gwener, gan ddwyn cyfrifiaduron staff a dillad drud.
Mae'r digwyddiad yn "arbennig o niweidiol" yn ôl prif weithredwr yr hosbis gan eu bod eisoes yn "brwydro i oroesi" oherwydd y pandemig coronafeirws.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod gemwaith ac arian hefyd wedi cael eu cymryd.
Yn ôl swyddogion yr hosbis, sydd ag uned yn Llandudno ar gyfer 14 o gleifion mewnol, mae 90% o'u incwm wedi dod i stop oherwydd coronafeirws.
Dywedodd llefarydd fod "difrod sylweddol" wedi ei achosi.
"Mae yna amcangyfrif ein bod wedi colli gwerth miloedd o bunnoedd o eitemau, gan gynnwys dillad designer, nwyddau trydanol o emwaith, allwn ni wedi eu gwerthu i godi arian hollbwysig," meddai.
"Mae hynny ar ben yr enillion rydyn ni'n eu colli ar ôl cau 26 siop yr hosbis oherwydd Covid-19."
Dywedodd prif weithredwr yr hosbis, Trystan Pritchard: "Mae'n arbennig o niweidiol y byddai rhywun yn targedu'r hosbis ar adeg mor eithriadol o anodd.
"'Dan ni'n brwydro i oroesi achos 'dan ni wedi colli'r rhan fwyaf o'n hincwm oherwydd yr argyfwng coronafeirws.
"Bydd hyn yn gwneud hi'n fwy anodd byth i gael digon o arian i ofalu am bobl leol ar ddiwedd eu hoes."
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn gwneud ymholiadau ynghylch yr achos.
Daw'r lladrad ddiwrnod wedi i benaethiaid gyhoeddi fod yna 90% o gwymp yn yr arian sy'n cael ei gasglu ers i'r argyfwng Covid-19 eu gorfodi i gau eu siopau elusen a chanslo digwyddiadau.
Roedd gweithwyr yr elusen wedi trefnu pecyn o weithgareddau Pasg i bobl roi cynnig arnyn nhw yn eu cartrefi, yn y gobaith o godi arian.
'Gwasanaethu cleifion bregus'
Dywedodd y pennaeth codi arian, Margaret Hollings fod yr hosbis yn wynebu ei chyfnod "mwyaf heriol erioed".
"Ar yr un pryd mae ein gwasanaethau cleifion mewnol a chymunedol yn dal ar agor i gleifion sy'n fregus," meddai.
"Mae ein staff ni hefyd ar y rheng flaen ynghyd â'r GIG ac mae angen sicrhau fod gofal diwedd oes yn parhau ar gyfer rheiny sydd daer ei angen yng nghyfnod y pandemig yng ngogledd Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2018