Teyrngedau i ffermwr adnabyddus o Sir Drefaldwyn

  • Cyhoeddwyd
Richard TudorFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae teyrngedau'n cael eu rhoi i ffermwr adnabyddus o Sir Drefaldwyn fu farw'n sydyn mewn damwain tractor.

Bu farw Richard Tudor ddydd Gwener tra'n gweithio ar dir ei fferm.

Roedd yn 45 oed, yn ŵr i Catrin ac yn dad i ddau o blant, Morgan sy'n 17 oed a Lois sy'n 15.

Roedd Mr Tudor yn byw ar fferm Llysun yn Llanerfyl ger Llanfair Caereinion ac yn fab i Ann a Tom Tudor, Llywydd y sioe fawr yn Llanelwedd yn 2018.

Ffermwr gweithgar

Roedd Richard Tudor yn weithgar iawn yn ei gymuned leol yn cefnogi ac yn hyfforddi'r clwb ffermwyr ifanc lleol, yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dyffryn Banw ac yn ysgrifennu colofn fisol ar ffermio ar gyfer y papur bro, Plu'r Gweunydd.

Fe fyddai'n siaradwr gwadd hefyd mewn cymdeithasau lleol a rhai y tu hwnt i Gymru.

Roedd hefyd yn adnabyddus ar draws Cymru a thu hwnt am ei waith yn y byd amaeth - roedd yn ffermwr arddangos gyda Chyswllt Ffermio, ac yn 2017 fe deithiodd i Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America ar ôl cael Ysgoloriaeth Nuffield i astudio ffrwythlondeb pridd.

Yn 2016 fe enillodd wobr Ffermwr Biff y Flwyddyn trwy Brydain gyfan. Ond yn 2018 - yn rhannol oherwydd Brexit - fe benderfynodd werthu ei wartheg er mwyn trosglwyddo i fod yn ffermwr llaeth.

Cafodd y gwaith ar y parlwr godro ei gwblhau yn ystod yr wythnosau diwethaf a'r teulu newydd ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes y fferm.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Richard Tudor

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Richard Tudor

'Colled enfawr'

Wrth roi teyrnged iddo dywedodd Beryl Vaughan, ffrind agos i'r teulu: "Mae colled enfawr ar ôl Richard - mae Dyffryn Banw mewn sioc ddwys o glywed y newyddion tu hwnt o drist yma.

"Roedd Richard yn bersonoliaeth arbennig a chryf - yn ffermwr da a chyfrannwr mawr at ei gymuned ond yn fwy na dim yn ddyn teulu.

"Roedd yn fab arbennig i Tom ac Ann, roedd yn ŵr cariadus i Catrin. Ro'n nhw wedi bod yn gariadon ers dyddiau'r ysgol ac roedd yn dad arbennig i Morgan a Lois.

"Roedd e hefyd yn gallu troi ei law at bopeth - roedd yn 'all-rounder'.

"Roedd graen ar bopeth y byddai'n gwneud, a byddai bob amser ceisio gwneud popeth yn y ffordd iawn.

"Ry'n ni'n cydymdeimlo'n enfawr gyda'i deulu yn eu colled ar yr adeg anodd iawn yma."

Mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn dweud eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac yn cydweithio â'r heddlu mewn ymchwiliad i amgylchiadau'r farwolaeth.