Gweithwyr allweddol i gael tri mis o ofal plant am ddim
- Cyhoeddwyd

Bydd rhieni sydd mewn swyddi allweddol yn cael gofal plant am ddim ar gyfer plant o dan bump oed yn ystod yr argyfwng coronafeirws, medd Llywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun arferol sy'n sicrhau 30 awr o ofal plant yn ddi-dâl yn cael ei ohirio am dri mis.
Yn hytrach, fe fydd cynghorau sir yn cael defnyddio cyllid y cynllun hwnnw fel bod darparwyr gofal plant yn gallu cefnogi rhieni sy'n gweithio ar y rheng flaen mewn ymateb i'r pandemig.
Mae'r trefniadau hefyd yn berthnasol i blant sy'n cael eu hystyried fel rhai all fod mewn perygl o ddioddef niwed.

CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Julie Morgan fod hi'n "hollbwysig nad yw rhieni sy'n weithwyr hanfodol... yn wynebu rhwystrau yn y frwydr yn erbyn coronafeirws".
Mae'r cyhoeddiad yn golygu fod Llywodraeth Cymru'n anrhydeddu ymroddiad i roi sicrwydd i ddarparwyr gofal plant, gan barhau i dalu am yr oriau o ofal plant sydd wedi'u harchebu eisoes dan y cynllun 30-awr arferol.
Er bod yr ysgolion ar gau i'r rhan fwyaf o blant, maen nhw wedi parhau ar agor er mwyn cefnogi gweithwyr sydd yn y categori hanfodol.
Mae'r categori dan sylw yn cynnwys meddygon, nyrsys, parafeddygon, gweithwyr cymdeithasol, gweithwyr y diwydiant cynhyrchu bwyd, yr heddlu a'r gwasanaethau tân ac achub.
Dywed Llywodraeth Cymru: "Bydd cyfarwyddyd am y trefniadau newydd yn cael ei gyhoeddi'n fuan."