Galw am flaenoriaethu archebion siopa ar-lein pobl ddall
- Cyhoeddwyd

Mae archfarchnadoedd yn neilltuo cyfnodau er mwyn rhoi blaenoriaeth i bobl fregus a gweithwyr iechyd
Wrth i'r argyfwng coronafeirws ddwysau, mae 'na alw am roi blaenoriaeth i bobl sy'n colli eu golwg wrth siopa ar-lein.
Mae rhaglen Newyddion S4C wedi clywed bod elusen yr RNIB yn cael 150 o alwadau ychwanegol bob dydd gan bobl sy'n poeni na fyddan nhw'n gallu ymdopi.
Dywed Llywodraeth Cymru'n fod gwybodaeth yn cael ei rhannu gydag archfarchnadoedd fel bod archebion gan y bobl yn y categori risg uchel yn cael eu blaenoriaethu.
Ond mae'r elusen yn dweud nad ydi'r deillion ar y rhestr o bobl bregus ac yn galw am eu cynnwys.
'Mae'n anodd dychrynllyd'
Mae Rhian Evans o Gaerfyrddin wedi colli ei golwg yn llwyr ac yn arfer byw yn annibynnol.
Wrth i'r feirws darfu doedd hynny ddim yn opsiwn bellach ac fe symudodd i mewn gyda'i chwaer.
"Mae yn anodd, yn enwedig i rywun sy'n byw ar ben ei hun fel fi," meddai.
"Cyn i fi symud rhyw bythefnos yn ôl at fy chwaer, fe ddechreuais i deimlo'r wasgfa achos doeddwn i ddim yn gallu mynd allan i siopa fy hunan.
"Pan mae rhywun dall yn mynd mas, dyw e ddim yn gwybod pa mor agos mae e yn sefyll at rywun arall.

Dywed Rhian Evans fod hi'n amhosib i bobl ddal wybod a ydyn nhw'n cadw ddigon pell o bobl eraill
"Ry'n ni wedi cael cyfarwyddyd i sefyll ddigon pell oddi wrth pobl eraill - wel does dim modd i rywun dall wybod hynny.
"Ro'n i'n arfer mynd i siopa wrth gymryd tacsi a dwi ddim eisiau cymryd tacsi dyddiau yma chwaith.
"Ond roeddwn i'n mynd mewn tacsi i un o siopau mawr y dre', ac ro'n i'n cael help un o'r cynorthwywyr i fynd o gwmpas gyda fi.
"Wel, dyw hynny ddim yn bosib bellach, felly mae'n anodd dychrynllyd."
Newid i'r sefyllfa bresennol
Mae elusen RNIB Cymru nawr yn galw am roi blaenoriaeth i bobol â nam ar eu golwg i gael eu cynnwys ar restr fregus Llywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng a rhoi blaenoriaeth iddyn nhw wrth siopa arlein - mewn cyfnod lle mae ceisio sicrhau archeb bron yn amhosib.
"Oherwydd mae pobl ddall a golwg rhannol ddim yn cael eu hystyried yn fregus dan system y llywodraeth, ar hyn o bryd, dydy o ddim yn bosib i gael y flaenoriaeth yna," meddai Elin Edwards o'r elusen.
"Felly ni yn galw am ryw fath o newid i'r sefyllfa bresennol i sicrhau bod pobl yn medru cael y slotiau ar-lein yma, hwnna bysa'r ffordd fwyaf saff."

Mae Elin Williams hefyd yn galw i rhoi blaenoriaeth i bobl â nam ar y golwg
Mae Elin Williams, 21, o Ddyffryn Conwy yn blogio am fyw gyda nam ar ei golwg.
"Mae 'na lawer o bryderon yng nghymuned y bobl sy'n byw efo nam golwg ar hyn o bryd," meddai.
"Un o'r brif ofnau ydy'r ffaith bod nifer o archfarchnadoedd ddim yn cynnwys pobl efo nam golwg ar eu rhestr flaenoriaeth, sy'n golygu bod cael mynediad i fwyd yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i'r bobl sy'n byw ar ben eu hunain."

Mae'n rhaid i bobl aros am rai wythnosau, mewn rhai achosion, i dderbyn archebion ar-lein
Mewn ymateb i gais am ymateb ynghylch y pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi danfon llythyrau at dros 85,000 o bobl yng Nghymru sydd yn y categori risg uchel o gael salwch difrifol yn sgil coronafeirws oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor eraill.
Mae'r bobl hyn, meddai, wedi cael cyngor i ddilyn sawl cam i ddiogelu eu hunain, gan gynnwys aros adref am 12 wythnos.
Ychwanegodd y llefarydd: "Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r archfarchnadoedd ac rydym yn rhannu gwybodaeth am y grŵp hwn o bobl fel eu bod yn gallu blaenoriaethu danfon archebion i bobl sy'n cadw eu hunain yn ddiogel."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2019