Cofio DT Davies - carcharor rhyfel a chynghorydd sir

  • Cyhoeddwyd
DT Davies

Mae un o gymeriadau mwyaf cofiadwy Sir Gâr, DT Davies, Dryslwyn wedi marw yn 101 oed.

Roedd DT, fel roedd pobl yn ei nabod, yn gynghorydd sir am ddegawdau.

Cafodd ei ddal yn garcharor rhyfel gan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan dderbyn y Fedal Filwrol am ei ddewrder.

Mae wedi cael ei ddisgrifio fel "arwr rhyfel anfoddog" a roddodd wasanaeth aruthrol i'w gymuned.

Cafodd ei brofiadau rhyfeddol eu cofnodi yn y gyfrol All for Freedom, gan gynnwys disgrifiadau emosiynol o'r erchyllterau a welodd tra'n garcharor rhyfel.

Cafodd ei gipio yn ystod Brwydr Creta ym Mai 1951 a'i gludo ar drên am dridiau gyda channoedd o filwyr eraill, heb fawr o ran bwyd na diod.

Treuliodd gyfnod yn y lle cyntaf yng ngwersyll Stalag 18 yn Wolfsberg, yn ne Awstria, cyn gorfod symud i Hwngari ac yna i wersyll-garchar Zemun, ger Belgrâd.

Fe ddisgrifiodd y safle hwnnw fel "uffern ar y ddaear", ond fe lwyddodd i ddianc o ddwylo'r Natsïaid ar bum achlysur.

Bu'n ymladd hefyd gyda byddin partisaniaid Tito yn Iwgoslafia.

'Cawr o was i'w gymuned'

Roedd yn gynghorydd sir rhwng 1970 a 2003, oedd yn cynnwys cyfnod yn aelod o'r hen Gyngor Sir Dyfed rhwng 1974 a 1996.

Mr Davies oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir Gâr, ac roedd hefyd yn gadeirydd Cyngor Sir Dyfed yn 1981-2.

Cafodd ei anrhydeddu gyda rhyddfraint Sir Gaerfyrddin gan y cyngor sir ar ddiwrnod ei ben-blwydd yn 100 oed.

Dywedodd y cynghorydd sir, Edward Thomas ar Facebook: "Gyda thristwch enfawr rwy'n cyhoeddi marwolaeth cawr o was i'r gymuned hon ac i'r sir.

"Nid oedd ei iechyd wedi bod yn 100% yn ddiweddar, ond roedd yn dal â diddordeb bywiog yn ei gymuned.

"Arwr rhyfel anfoddog a gyhoeddodd atgofion o'i brofiadau yn ystod yr Ail Ryfel Byd... aeth ymlaen i sefydlu busnes, gwasanaethu fel cynghorydd sir, cadeirydd Cyngor Sir Gaerfyrddin a llawer o ddyletswyddau eraill.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i'w deulu a phawb a gafodd y pleser o'i nabod - gwir gwr bonheddig."