Stryd yn Harlech yn colli teitl ffordd fwyaf serth y byd

  • Cyhoeddwyd
Baldwin StreetFfynhonnell y llun, Dunedin NZ
Disgrifiad o’r llun,

Mae Baldwin Street yn Dunedin, Seland Newydd wedi adennill ei thlws fel y stryd fwyaf serth

Mae stryd yn Harlech wedi colli ei statws fel y ffordd fwyaf serth yn y byd.

Enillodd Ffordd Pen Llech y teitl ym mis Mehefin 2019, gan ddisodli Baldwin Street yn Dunedin, Seland Newydd, ac fe gafwyd cadarnhad o hynny gan Recordiau Byd Guinness.

Ond mae'r Kiwis wedi adennill y record yn dilyn apêl gan drigolion Baldwin Street, ac adolygiad gan Recordiau Byd Guinness o'r ffordd y cafodd graddiant y ddwy stryd eu mesur.

Roedd Toby Stoff, syrfëwr ar ran apêl Baldwin Street, yn dadlau y dylid fod wedi mesur y lôn ar hyd ei llinell ganol i weld pa mor serth oedd hi.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffordd Pen Llech wedi colli ei statws byrhoedlog fel y stryd fwyaf serth yn y byd

Wrth ddefnyddio'r llinyn mesur hwnnw cadarnhawyd fod graddiant Baldwin Street yn 34.8%, tra bod Ffordd Pen Llech yn 28.6%.

Daeth Mr Stoff i Harlech i weld drosto'i hun, ac yn y pen draw mae Recordiau Byd Guinness wedi cytuno â'i farn.

Dywedodd Mr Stoff nad oedd unrhyw ddrwgdeimlad rhwng y ddwy dref, a'i fod wedi cael croeso cynnes yn Harlech yn ystod ei ymweliad ym mis Tachwedd.

Disgrifiad o’r llun,

Gwyn Headley a Sarah Badham o Grŵp Cymunedol Harlech ar ôl y dyfarniad y llynedd