Y DU'n cadarnhau na fydd cyfyngiadau'n cael eu codi
- Cyhoeddwyd
Mae'r Ysgrifennydd Tramor, Dominic Raab wedi dweud fod Llywodraeth y DU yn dal i gasglu data i asesu effaith y cyfyngiadau presennol ar ymlediad coronafeirws.
Roedd yn siarad yn dilyn cyfarfod o bwyllgor argyfwng COBRA yn gynharach brynhawn Iau.
"Mae'r arwyddion cynnar yn awgrymu eu bod yn cael effaith," meddai, ond gan ychwanegu ei bod yn rhy gynnar i ddweud hynny i sicrwydd.
Aeth ymlaen i ddweud y byddai'n rhaid i'r mesurau aros mewn lle "tan fod gennym dystiolaeth sy'n dangos ein bod wedi symud y tu hwnt i'r brig".
Dywedodd fod nifer y marwolaethau o Covid-19 yn dal i gynyddu a'i bod yn rhy gynnar i godi'r cyfyngiadau.
"Rhaid i ni beidio rhoi ail gynnig i coronafeirws ladd mwy o bobl," meddai.
Er iddo ddweud y byddai'r mesurau'n parhau, doedd ganddo ddim amserlen bendant gan ychwanegu: "Nid ydym yn disgwyl dweud mwy am hyn tan ddiwedd yr wythnos nesaf."
Dywedodd hefyd ei fod wedi trafod y diweddaraf gyda deddfwriaethau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn y cyfarfod COBRA.
Syndod
Yn gynharach, roedd ffynhonnell o fewn Llywodraeth y DU yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi peri syndod yn San Steffan wrth gyhoeddi y byddai'r cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu hymestyn tu hwnt i Ddydd Llun y Pasg.
Dywedodd y ffynhonnell wrth BBC Cymru: "Roedden ni wedi synnu fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu achub y blaen gyda'u cynlluniau eu hunain cyn cyfarfod COBRA i drafod ffordd ymlaen ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan."
Ychwanegodd fod yna gytundeb yn ystod "galwad ffôn lefel uchel" mai parhau ar yr un trywydd yn holl wledydd y DU oedd y dull gorau i fynd i'r afael â'r argyfwng coronafeirws, gan gynnwys y mesurau eisoes mewn grym.
Yn y cyfamser, mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi cymeradwyo'r penderfyniad.
Yn ôl y ffynhonnell, cafodd yr alwad ffôn ei threfnu ar gais Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford. Roedd hefyd yn cynnwys Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart, a'r aelod blaenllaw o gabinet Boris Johnson, Michael Gove.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Cadarnhaodd Mr Drakeford bod y cyfyngiadau'n cael eu hymestyn yn ystod cyfarfod rhithiol o Gynulliad Cymru ddydd Mercher.
Dywedodd y byddai llacio'r canllawiau presennol yn golygu y byddai Cymru yn "colli enillion trwy droi cefn ar ein hymdrechion yn union ar yr adeg iddyn nhw ddechrau dwyn ffrwyth".
Cyfyngiadau 'am rai wythnosau eto'
Awgrymodd y byddai'r cyfyngiadau mewn grym "am rai wythnosau eto, o leiaf".
Brynhawn Iau fe ddywedodd wrth BBC Radio 4 ei fod yn disgwyl i wledydd eraill y DU ddilyn yr un trywydd wedi'r cyfarfod COBRA.
"Dydw i ddim yn meddwl fod unrhyw un yn credu ein bod am ddychwelyd i ble roedden ni, cyn wythnos nesaf," meddai wrth raglen World at One.
"Bydd angen i'r trefniadau presennol barhau, bydd rhaid meddwl wythnos nesaf a allwn ni eu mireinio mewn unrhyw ffordd.
"Rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig i ddechrau meddwl nawr sut mae llacio'r cyfyngiadau maes o law, ond nid nawr yw'r adeg.
"Doeddwn i ddim am i bobl Cymru ar drothwy penwythnos y Pasg, feddwl y byddai popeth yn dychwelyd i'r arfer ar ddiwedd y penwythnos.
"Doeddwn i ddim ychwaith am i unrhyw un feddwl fod teithio i Gymru ar gyfer gwyliau'r Pasg yn syniad da.
"Dydy mynd ar wyliau neu ymweld ag ail gartref ddim yn daith hanfodol."
'Heb weld y gwaethaf eto'
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig wedi cymeradwyo'r penderfyniad, gan awgrymu na ddylai fod wedi synnu unrhyw un.
"Dyma'r unig gam synhwyrol ar hyn o bryd, ac ni ddylai fod yn syndod,"meddai Angela Burns AC.
"Roedd yn gwbl glir, er gwaethaf yr hyn mae rhai ffynonellau newyddion yn ei adrodd, fod y lockdown cychwynnol i'w adolygu wedi tair wythnos. Doedd dim sôn y byddai'n cael ei godi.
"Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi gweld y gwaethaf o'r pandemig yma eto, ac mae angen cymryd pob cam i'n cadw'n ddiogel, gan gynnwys parhau gyda'r lockdown."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Ebrill 2020