Nyrs 'poblogaidd a hoffus' wedi marw â coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
Gareth RobertsFfynhonnell y llun, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gareth Roberts wedi gweithio fel nyrs ers y 1980au

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cadarnhau bod un o'u nyrsys wedi marw ar ôl cael coronafeirws.

Yn eu teyrnged maen nhw'n disgrifio Gareth Robert fel dyn "poblogaidd a hoffus", gan ddweud y bydd "colled fawr ar ei ôl".

Bu farw yn Ysbyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful ar ôl cael prawf Covid-19 positif.

Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fod 36 o bobl yn rhagor wedi marw o coronafeirws, gan ddod â'r cyfanswm yng Nghymru i 351.

Dywedodd bwrdd iechyd fod Mr Roberts wedi dechrau nyrsio yn y 1980au gan weithio mewn sawl ysbyty.

Ychydig wythnosau ar ôl ymddeol yn Rhagfyr 2014 fe ymunodd â'r banc nyrsio a gweithio shifftiau achlysurol.

'Ffordd hyfryd o drin perthnasau'

"Roedd pawb yn nabod Gareth yn dda iawn," medd y bwrdd yn eu teyrnged.

"Roedd yn boblogaidd eithriadol, yn berson llawn hwyl, hoff gan bawb - wastad yn cyfarch pawb gyda 'helo, cariad' wrth eu gweld.

"Mae staff yn dweud ei fod yn berson caredig a pharod i helpu, a'u bod wedi dysgu gymaint oddi wrtho.

"Roedd ganddo ffordd hyfryd o drin perthnasau, wastad yn rhoi gwasanaeth personol, gofalgar."

Ychwanegodd y bwrdd fod Mr Roberts yn gadael gwraig, mab ac ŵyr.