Beth yw profiadau pobl o ymbellhau cymdeithasol?

  • Cyhoeddwyd
Amy-Claire Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd meddygon yn credu na fyddai Amy-Claire Davies yn byw tu hwnt i'w phlentyndod

Mae cyfyngiadau coronafeirws yn her i bob cartref, ond i un teulu yn Abertawe roedd marwolaeth eisoes yn bwnc dyddiol.

Mae gan Amy-Claire Davies gyflwr sy'n golygu bod rhaid iddi gymryd 40 tabled y dydd i oroesi.

Mae gan ei rhieni broblemau iechyd hefyd, ond mae'r teulu yn gwneud popeth o fewn eu gallu i aros yn bositif yn wyneb peryglon y pandemig.

Bydd eu hanes ymysg nifer fydd yn cael eu rhannu fel rhan o gyfres newydd gan BBC Cymru.

Marwolaeth yn bwnc dyddiol

Roedd meddygon yn credu'n wreiddiol na fyddai Amy, 25, yn byw tu hwnt i'w phlentyndod.

Mae pob diwrnod yn anodd iddi, ac mae hi'n cael gwingiadau - ac fe all unrhyw un o'r rheiny ei lladd.

Mae hi yn y dosbarth risg uchel yn ystod yr argyfwng coronafeirws, ac nid hi yw'r unig berson yn ei chartref sydd yn y categori yma.

Mae gan ei thad, Steve, grydcymalau gwynegol (rheumatoid arthritis) ac mae gan ei mam, Caroline, gyflyrau gyda'i system imiwnedd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cyflwr Steve Davies yn golygu ei fod yn y dosbarth risg uchel yn ystod yr argyfwng

"Yn ein teulu ni ry'n ni'n siarad am farwolaeth fel mae'r mwyafrif o bobl yn siarad am ginio Sul," meddai Caroline.

"Mae wedi bod yn rhan o fy mywyd ers rwy'n gallu cofio - dydyn ni ddim yn gwybod yn wahanol."

Mae'r teulu wedi dysgu i drin eu cyflyrau gartref er mwyn osgoi gorfod mynd i'r ysbyty, diolch i sgyrsiau dros y we gyda nyrsys.

Dywedodd Amy nad yw'n disgwyl gallu mynd yn ôl i'w bywyd arferol nes y bydd brechiad ar gael yn erbyn Covid-19.

"Ry'n ni'n ceisio gwneud y gorau o sefyllfa wael iawn, ofnus iawn," meddai.

'Dewch rhyw dro arall'

Fel arfer mae Delmon Fecci, sy'n rhedeg siop a bwyty yn Ninbych-y-pysgod, yn falch o weld y dref yn brysur, ond mae nawr yn synnu ar y rheiny sy'n parhau i deithio yno'n groes i'r gorchmynion.

"Does gan y bobl sy'n teithio yma ddim ystyriaeth o'r bobl leol," meddai.

"Dewch i Sir Benfro rhyw dro arall - dydyn ni ddim yn mynd unrhyw le."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Llŷr Jones wedi bod yn ffilmio ei hun yn diolch i weithwyr y gwasanaeth iechyd

Mae'r ffermwr Llŷr Jones yn cael ei ystyried yn weithiwr allweddol - mae ei ieir yn cadw wyau ar silffoedd archfarchnadoedd.

Yn ffermio ger Corwen, mae'n rhannu rhwystredigaeth Delmon ynglŷn ag ymwelwyr, gyda nifer yn pasio ei dir ar eu ffordd i gefn gwlad Cymru.

"Roedd pobl yn trin y ffaith fod eu hysgol neu waith ar gau fel rheswm i fynd ar eu gwyliau," meddai.

'£10,000 oddi ar fy incwm'

A hithau'n dymor wyna, mae'r argyfwng wedi golygu fod pris cig oen wedi gostwng yn sylweddol.

"Mae wedi tynnu £10,000 oddi ar fy incwm i bob pwrpas," meddai.

Dydy Llŷr ddim yn gallu crwydro i'r stryd pob nos Iau i gymeradwyo gofalwyr a gweithwyr rheng flaen, felly mae wedi gorfod bod yn greadigol.

Gyda 500 o ddefaid tu ôl iddo mae'n ffilmio ei hun yn ysgwyd bwced o fwyd i gynhyrchu côr o anifeiliaid, tra'n dal posteri yn diolch i staff y gwasanaeth iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ross Carpenter wedi symud i ffwrdd o'i deulu yn ystod y pandemig

Dydy pob teulu ddim yn gallu bod gyda'i gilydd yn ystod yr argyfwng.

Un arall sydd wedi'i wahanu o'i deulu ydy Ross Carpenter, sy'n rhedeg fferyllfa yn Resolfen ger Castell-nedd.

Mae gan ei fab, Mason, diabetes, ac mae'n hunan ynysu gyda'i fam, Lianne, tra bod Ross wedi symud i dŷ ffrind gerllaw.

Mae'n credu y gallai fod i ffwrdd o'i deulu am o leiaf 12 wythnos, ac ar ei fod yn cael swper gyda'i deulu dros y we pob nos, mae'n dweud ei fod yn eu "colli yn ofnadwy".

Ond mae Ross yn siŵr ei fod yn gwneud y penderfyniad cywir er mwyn amddiffyn ei fab, ac nad yw'n gallu rhoi'r gorau i'w swydd oherwydd ei phwysigrwydd.

"Rydw i wedi bod yn gwneud hyn am 25 mlynedd ac mae'r llwyth gwaith ar y funud yn ddigynsail," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenna McDonnell wedi penderfynu byw yn ei busnes er mwyn amddiffyn ei rhieni

Tra bod gan Ross ddigon o gwsmeriaid, mae hi'n llwyr i'r gwrthwyneb i Jenna McDonnell, sy'n berchen ar fusnes harddwch yng Nghasnewydd.

Mae hi wedi symud allan o dŷ ei rhieni am eu bod yn eu 70au a gyda phroblemau iechyd, ac mae hi nawr yn byw yn ei salon.

Gyda digwyddiadau fel priodasau wedi'u gohirio, mae Jenna yn wynebu cyfnod ansicr yn ariannol.

"Rydw i wedi colli lot o arian yn barod ac rwy'n poeni sut ydw i am fforddio cyflogau'r staff fis yma," meddai.

"Dydw i ddim yn gwybod beth i'w wneud - rydw i eisiau talu fy staff am eu bod yn wych, ond s'gen i ddim arian."

Bydd y straeon hyn a mwy ar raglen Wales in Isolation, BBC One Wales am 20:30 nos Lun.