Bwthyn gwag wedi ei 'ddinistrio'n llwyr' gan dân
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth tân yn cynnal archwiliad ar ôl i fwthyn gwag fynd ar dân yn oriau mân fore Mawrth.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw i'r adeilad yng Nghegidfa ger Y Trallwng toc wedi hanner nos.
Dywedodd y gwasanaeth tân fod y bwthyn wedi'i "ddinistrio'n llwyr."
Fe dreuliodd criwiau o'r Trallwng, Llanfyllin, Trefaldwyn a'r Amwythig ddwy awr yn diffodd y fflamau.
Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod yr eiddo'n wag.
Bydd archwiliad tân yn cael ei gynnal fore Mawrth i geisio canfod yr achos.
Galw am brofion i ddiffoddwyr tân
Daw'r digwyddiad wrth i aelod o gyngor gweithredol Undeb y Brigadau Tân rybuddio am brinder staff yn ystod pandemig coronafeirws.
Dywedodd Cerith Griffiths wrth BBC Radio Wales: "Ar hyn o bryd mae gennym 178 aelod o staff yn hunan-ynysu a'r ofn yw bod y niferoedd hyn yn mynd i gynyddu.
"Rwyf am bwysleisio nad y'n ni eisiau profion o flaen gweithwyr y GIG, mae'n rhaid iddyn nhw fod yn flaenoriaeth.
"Ond os gallwn ni gael profion i staff sy'n hunan-ynysu a darganfod a ydyn nhw'n glir ai peidio, gallan nhw ddychwelyd i'r gwaith yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach."