Coronafeirws: 'Sialens aruthrol' nyrsys gofal dwys

  • Cyhoeddwyd
Sandra Robinson Clark
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sandra Robinson-Clark yn gweithio mewn uned gofal dwys

Mae nyrsys ar reng flaen y gwasanaeth iechyd ynghanol y pandemig, ochr yn ochr â doctoriaid, gweithwyr iechyd, glanhawyr a gofalwyr.

Yn eu plith mae llefarydd y Coleg Nyrsio Brenhinol, Sandra Robinson-Clark. Mae hi'n gweithio mewn uned gofal dwys (UGD) ac mae'n rhybuddio y bydd rhai nyrsys yn cael "post-traumatic stress" yn sgil eu profiadau.

Sion Pennar fu'n ei holi.

Sut brofiad ydy gweithio mewn UGD ar hyn o bryd?

"Mae hyn yn wahanol i fod mewn uned gofal dwys cyffredin gan fod y cleifion mor wael.

"Mae 'na hynny, ac wedyn mae'r offer PPE yn galed i weithio ynddo fo.

"Mae'r masgiau yn reit frwnt ac mae'n anodd cyfathrebu achos fedrwch ddim tynnu'r offer i ffwrdd pan 'dach chi yn yr uned."

Sut mae nyrsys yn dygymod?

"Mae'r sialens yn aruthrol. Mae'r nyrsys wedi blino, maen nhw'n gwneud shifftiau 12 awr a dydyn nhw ddim fel y shifftiau oeddan ni'n eu gwneud o'r blaen - mae hi mor brysur ac mae'r cleifion Covid-19 yn wael ofnadwy.

"Felly mae o'n mynd i ddweud ar bobl. Mae'n bwysig ein bod yn cael help gyda chwnsela a hefyd y tîm seicolegol, achos mi fydd 'na post traumatic stress yn wynebu nifer o staff - yn enwedig gan fod gymaint o gleifion yn colli'u bywyd.

"Mae'n dorcalonnus ein bod ni ddim yn gallu rhoi cymorth penodol i'r teulu, fel 'dan ni wedi arfer neud. Mae hynna'n galed ofnadwy."

Oes gennych chi ddigon o offer diogelwch?

"Mae 'na gaps ar hyd y wlad lle does 'na ddim digon, felly mae staff yn bod yn ofalus sut maen nhw'n ei ddefnyddio fo.

"Ond mae'n angenrheidiol ei gael o, achos mae'n rhaid inni edrych ar ôl ein hunain ac mae gynnon ni deuluoedd i fynd adra atyn nhw.

"Wrth gwrs 'dan ni'n dal i obeithio y daw mwy o offer drwodd."

Faint o her ydy hyfforddi'r nyrsys o adrannau eraill sy'n dod i weithio dros dro yn yr unedau?

"Mae o wedi bod yn sialens ac yn galed. Ond mae o mor galonogol bod 'na gymaint o ymdrech wedi mynd ymlaen yn yr ysbytai ledled y wlad i hyfforddi nyrsys sydd ddim wedi arfer gweithio yn yr UGD.

"Fel arfer, mae'n cymryd chwe mis i flwyddyn i rywun ddod yn fully competent yn yr UGD felly mae'r hyfforddiant yn fast track."

Oes 'na ofn ymhlith staff?

"Mae o'n codi ofn ar bawb, achos mae'r firws mor aggressive ac mae o'n newid, yn ôl be' 'dan ni'n ddeall.

"Felly mae'n amser pryderus a phoenus i ni gyd, ond mae'r morale a'r ewyllys da o fewn staff y gwasanaeth iechyd mor touching a moving.

"'Da ni'n gweithio efo'n gilydd fel tîm ac fe wnawn ni wneud hyn efo'n gilydd."