Adeiladu tri ysbyty maes Covid-19 ar frys yn y gogledd

  • Cyhoeddwyd
Brailsford
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa tu allan i Ganolfan Brailsford ym Mangor

Mae'r gwaith yn brysur mynd rhagddo i gwblhau tri ysbyty dros dro newydd yng ngogledd Cymru i helpu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ymdopi gyda'r pandemig coronafeirws.

Bydd 850 yn rhagor o welyau rhwng y tri safle, sy'n cael eu galw rhyngddynt yn Ysbyty Enfys.

Yn Venue Cymru yn Llandudno, bydd 350 gwely i gleifion sir Conwy, gyda 250 lle ychwanegol i Wynedd ym Mangor, a 250 gwely ychwanegol i Sir y Fflint a Wrecsam yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.

Mae Ysbyty Glan Clwyd yn Modelwyddan, Sir Ddinbych, hefyd wedi darparu 80 gwely ychwanegol i gleifion Covid-19.

Troi campfa'n wardiau

Mae'r prosiect ym Mangor yn rhan o bartneriaeth rhwng prifysgol y ddinas a'r bwrdd iechyd, gyda'r ganolfan chwaraeon yn cael ei throi'n nifer o wardiau i ofalu am gleifion sy'n gwella o Covid-19.

Disgrifiad o’r llun,

Ffion Johnston, Cyfarwyddwr Ardal BIPBC

Mae disgwyl i'r gwaith yng Nghanolfan Brailsford gael ei gwblhau erbyn 19 Ebrill ac mae'r bwrdd iechyd yn gobeithio dechrau defnyddio'r safle ym mis Mai.

Ym Mangor, dywedodd Ffion Johnston, Cyfarwyddwr Ardal BIPBC, bod y gwaith sydd wedi digwydd yno dros yr wythnosau diwetha' wedi bod yn anhygoel.

"Mi allwch chi weld y wardiau'n mynd i fyny a'r gwaith adeiladu'n digwydd ym mhobman. Mewn 'chydig wythnosau mi fydd 'na welyau yma ac mi fydd yn edrych mwy fel ysbyty.

"'Da ni'n gobeithio bydd yr ysbyty yma'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cleifion sy'n gwella o Covid-19. Mi fyddan nhw wedi dod o Ysbyty Gwynedd ac yn dod yma ar gyfer eu hadferiad."

Ychwanegodd: "'Da ni wedi gwneud be' allai gymryd blynyddoedd mewn ychydig wythnosau yma. Alla' i ond diolch i'r brifysgol a'r gwahanol gynghorau am y gefnogaeth 'da ni wedi'i gael.

"Un peth da sydd wedi dod o'r sefyllfa yma ydy bod y ffiniau rhwng sefydliadau wedi mynd. 'Da ni gyd yn trio gweithio mor gyflym a phosib i gael y gofal gorau i'n cleifion."

'Profiad newydd'

Mae John Offlands, Cyfarwyddwr Prosiect i gwmni adeiladu Vinci ac Integrated Health Projects (IHP), sy'n cynnal y gwaith trawsnewid ym Mangor, yn dweud bod y cyfan wedi bod yn brofiad hollol newydd.

"Fe benderfynon ni y byddai'n well gwneud yr ysbyty'n hunangynhaliol felly 'da ni wedi gosod cyflenwadau ar wahân ar gyfer y trydan, dŵr a'r nwyon ac mae rheiny'n rhedeg ar hyd ochr yr adeilad a chael eu cludo drwy bibelli i'r gwahanol wardiau dros dro.

"Yn arferol mi fydden ni'n cymryd tua 16 mis i godi ysbyty, y tro 'ma 'da ni'n gwneud hynny mewn ychydig wythnosau felly mae'n dipyn o her."

Mae Ffion Johnson yn cydnabod y bydd hi hefyd yn her i sicrhau digon o staff i weithio yn safleoedd newydd y bwrdd iechyd.

"Mi fydd ganddon ni oruchwyliaeth nyrsio, mewnbwn meddygol, a gwirfoddolwyr hefyd.

"Mae 'na nifer o ymgyrchoedd rŵan i gael nyrsys, doctoriaid, therapyddion a gwirfoddolwyr. 'Da ni hefyd wedi cael rhai pobl yn dod allan o ymddeoliad.

"Trwy weithio gyda phartneriaid a chael y staff yn eu lle, 'da ni'n gobeithio'n bod ni'n barod am yr her sydd i ddod."