Sefydlu llety argyfwng i bobl ddigartref hunan ynysu

  • Cyhoeddwyd
llandudno
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cabanau'n cael eu gosod ym maes parcio Neuadd y Dref Llandudno

Bydd cabanau dros dro yn cael eu gosod yn Llandudno a Bae Colwyn ar gyfer pobl sy'n ddigartref yn ystod cyfyngiadau coronafeirws.

Mae Cyngor Conwy wedi cael gafael ar 10 o gabanau ar gyfer un person - sy'n cynnwys gwely, ystafell ymolchi a meicrodon - er mwyn eu cynnig i bobl sydd wedi bod yn cysgu ar y stryd yn y sir.

Yn Llandudno bydd rhai'n cael eu gosod ym maes parcio Neuadd y Dref, a bydd y neuadd hefyd yn darparu gwasanaethau i'r bobl fydd yn aros yn y cabanau tra bod caffi gerllaw wedi cynnig darparu prydau bwyd.

Ym Mae Colwyn, bydd y cabanau'n cael eu gosod mewn maes parcio sy'n eiddo i'r elusen CAIS.

Cafodd y cyngor gymorth gan Lywodraeth Cymru i gael gafael ar y cabanau yn dilyn cais gan swyddogion yng Nghaerdydd y dylai cynghorau lleol ddarparu llety argyfwng i bobl ddigartref.

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey o Gyngor Conwy: "Bydd y cabanau'n darparu llety argyfwng dros dro i gynorthwyo pobl i hunan ynysu tra'n derbyn cymorth gan yr asiantaethau perthnasol.

"Ein gobaith yw bachu'r cyfle i drafod gyda'r unigolion a'u cynorthwyo i fynd allan o sefyllfa digartrefedd yn llwyr.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd y cynllun yn weithredol erbyn dechrau'r wythnos nesaf."

Dywedodd y cyngor bod disgwyl i'r cabanau gyrraedd erbyn dydd Gwener.