Goodall: 'Pryder' am ofal iechyd i gleifion heb Covid-19

  • Cyhoeddwyd
Andrew Goodall

Dylai pobl sy'n dioddef o salwch sydd ddim yn ymwneud â Covid-19 barhau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd, yn ôl prif weithredwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.

Dywedodd Andrew Goodall ei fod yn "bryderus" nad yw'r cyhoedd yn chwilio am gymorth meddygol at broblemau eraill.

Mae'r niferoedd sy'n defnyddio rhai gwasanaethau wedi cwympo o 60% mewn rhai adrannau, yn ôl Dr Goodall.

"Gallai fod rhai pobl yn aros yn rhy hir i chwilio am asesiadau a thriniaethau brys," meddai yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru.

60% yn llai o ymweliadau gofal brys

Dywedodd Dr Goodall bod 60% yn llai o ymweliadau gydag adrannau gofal brys o'i gymharu â'r un cyfnod llynedd, a bod 35% yn llai o bobl yn cael eu derbyn i ysbytai fel achosion brys.

Ychwanegodd bod nifer yr ambiwlansys sy'n cyrraedd ysbytai wedi gostwng 20% hefyd.

"Rydyn ni'n deall bod llawer o wasanaethau wedi eu heffeithio ond rydyn ni eisiau cadarnhau'r neges bod gwasanaethau brys ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol yn parhau yn agored i bobl," meddai.

Ychwanegodd: "Rydyn ni'n clywed gan staff bod rhai unigolion sy'n dewis peidio defnyddio gwasanaethau pan y dylent."

Hefyd yn y gynhadledd, dywedodd Dr Goodall y byddai angen archebion newydd o offer diogelwch personol "yn yr wythnos i ddod" er mwyn sicrhau bod digon yn y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd bod mwy o offer fel masgiau a menig yn cael eu dosbarthu "nag erioed o'r blaen", a bod angen "monitro nifer yr eitemau sydd gyda ni".

"Mae'r ffordd maent yn cael eu defnyddio dros Gymru yn ffactor yn hynny ac mae angen sicrhau y gallwn archebu digon o rai eitemau yn hytrach na rhai eraill."

Beth arall ddywedodd Dr Goodall?

Rhoddodd deyrnged i'r gweithwyr iechyd sydd wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, gan ddiolch i holl staff y GIG am eu gwaith.

Dywedodd bod 399 o welyau gofal dwys ychwanegol ar gael mewn ysbytai yr wythnos hon.

Mae tua hanner y gwelyau gofal dwys yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd, a thraean o'r rhai yna gan bobl sydd â'r coronafeirws, neu amheuaeth bod ganddynt y feirws.