'Risg' na fydd meithrinfeydd yn goroesi, medd y sector

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwarae ar y llawrFfynhonnell y llun, Photofusion

Mae darparwyr gofal plant yn cael eu "hanwybyddu" yn yr ymateb i'r pandemig coronafeirws, yn ôl Mudiad Meithrin a chyrff eraill sy'n cynrychioli'r sector.

Maen nhw'n rhybuddio nad yw meithrinfeydd yn gymwys ar gyfer rai o'r cynlluniau i gefnogi busnesau a bod yna "risg sylweddol" na fydd nifer yn goroesi.

Yn ôl Dr Gwenllian Lansdown Davies, prif weithredwr Mudiad Meithrin, mae tua 90% o ddarparwyr wedi cau tra bod 10% yn parhau ar agor i ddarparu gwasanaeth i blant gweithwyr allweddol a phlant bregus.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ystod eang o gefnogaeth y gallai darparwyr gofal plant fod yn gymwys ar ei gyfer.

Mesurau 'ddim yn berthnasol'

Ers mis dim ond aros ar agor i blant penodol y gall meithrinfeydd wneud, a hynny'r un peth ag ysgolion.

Ond yn ôl Dr Davies mae diffyg dealltwriaeth o fewn y llywodraeth am sefyllfa unigryw sector sydd ddim yn ganiataol yn gweithredu ar sail gwneud elw ond sy'n gorfod parhau i fod yn hyfyw fel busnesau.

"Ein pryder ni fel sector ydy fod llawer iawn o'r mesurau sydd ar gael i gefnogi busnesau llai, busnesau canolig ac yn y blaen ddim yn berthnasol ar gyfer darparwyr gofal plant am nifer o resymau gwahanol," meddai.

"Mae'r sector yn teimlo fel pe bai o wedi cael ei anghofio i bob pwrpas".

Mae'r rhybudd yn dod gan bump o sefydliadau yn y maes dan faner corff Cwlwm, sy'n cynrychioli dros 4,000 o leoliadau gofal plant.

Mae'r grŵp yn cael ei arwain gan y Mudiad Meithrin, sy'n rhedeg dros 420 o gylchoedd meithrin ar gyfer dros 20,000 o blant.

Er bod yna gynllun gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig grantiau o hyd at £10,000 i fusnesau, dydy mwyafrif darparwyr gofal plant ddim yn gymwys achos mae'n rhaid bod yn gofrestredig ar gyfer treth ar werth.

Pryder mawr arall yw'r diffyg eglurder ynglŷn â'r cynllun ar gyfer rhoi gweithwyr ar saib o'r gwaith - cynllun y Trysorlys i dalu 80% o gyflogau gweithwyr.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mudiad Meithrin yn poeni am yr effaith ar yr iaith

Gan fod nifer o ddarparwyr yn derbyn arian cyhoeddus drwy'r cynllun cynnig gofal plant, does yna ddim sicrwydd eu bod yn gymwys, meddai Dr Lansdown.

Er bod cynrychiolwyr o'r sector wedi bod yn trafod gyda Llywodraeth Cymru, hyd yma maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi cael atebion boddhaol i'w pryderon.

"Arweiniad cadarn ac atebion clir sydd eu hangen erbyn hyn," meddai Dr Lansdown.

Pryder am yr iaith

"Mae 'na risg sylweddol na fydd y sector yn gallu goroesi y storom.

"Felly mae 'na bryder na fydd darparwyr gofal plant yn gallu parhau i fod mewn busnes er mwyn gallu darparu gofal plant, sydd mor allweddol i ailadeiladu'r economi pan y daw cyfle i wneud hynny, pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi."

Yn ogystal, o ystyried rôl Mudiad Meithrin, mae yn effaith posib ar ffyniant yr iaith, meddai Dr Lansdown.

"Mae 'na bryder o safbwynt eu rôl nhw fel darparwyr gofal plant ac mae 'na bryder ychwanegol o safbwynt y dylanwad ar yr iaith oherwydd y cylch ydy'r bont mewn i'r sector addysg statudol," meddai.

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan yn cyfarfod gyda Cwlwm ddydd Llun i drafod eu pryderon.

"Bydd pob darparwr gofal plant sy'n derbyn cymorth cyfraddau busnes bach o 100% ar hyn o bryd yn derbyn grant o £10,000 drwy eu hawdurdod lleol mor fuan â phosib," meddai.

Ychwanegodd y byddai rhai yn gymwys ar gyfer cynllun Llywodraeth y DU ar gyfer rhoi gweithwyr ar saib o'r gwaith, ond nad oedd canllawiau'r Trysorlys yn ei gwneud hi'n glir a oedd hynny'n wir ar gyfer darparwyr sydd hefyd yn derbyn arian cyhoeddus.