Ymwelydd newydd yn ymgartrefu yn nyth Gweilch Dyfi

  • Cyhoeddwyd
Telyn a'i chymar newyddFfynhonnell y llun, Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi
Disgrifiad o’r llun,

Telyn a'i chymar newydd, Idris, yn rhannu pryd o fwyd yn y nyth

Mae gwarchodfa natur gweilch Dyffryn Dyfi ger Machynlleth yn wynebu newidiadau mawr.

Yn ogystal â'r penderfyniad i gau'r warchodfa oherwydd yr argyfwng presennol, mae yna newid sylfaenol i bwy sy'n byw yn nyth y gweilch yno.

Ar ôl treulio'r gaeaf yn Affrica mae'r iâr Telyn wedi dychwelyd i'w nyth arferol ger glannau afon Dyfi.

Ond does dim sôn am ei chymar arferol, Monty. Roedd disgwyl iddo gyrraedd tua wythnos yn ôl.

Ond mae'n amlwg nad yw Telyn yn unig - mae aderyn arall yn cadw cwmni iddi, a bore Gwener fe ddaeth i'r amlwg fod ŵy cynta'r gwanwyn wedi cael ei ddodwy yn y nyth.

Er nad oedd golwg o Monty roedd ceiliog o'r enw Idris wedi cyrraedd ac roedd Idris a Telyn yn cynnal perthynas agos, yn y dystiolaeth ar gamerâu'r ganolfan.

Ffynhonnell y llun, Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi
Disgrifiad o’r llun,

Ble mae Monty yw'r cwestiwn mawr!

Mae tynged Monty yn ddirgelwch - yn ogystal â chefndir Idris. Does dim cofnod ohono gan nad oes modrwy i'w adnabod arno.

Yn ôl blog rheolwr y ganolfan, Emyr Evans mae gobaith hyd y gallai Monty ddychwelyd.

"Ond wrth i bob diwrnod fynd heibio mae'r tebygolrwydd yn lleihau," meddai. "Mae 'na rai adar hwyr allan yna - fe allwn obeithio bod Monty yn un ohonyn nhw."

O ran yr ymwelydd newydd, Idris: "Gan nad oes ganddo fodrwy does neb yn gwybod pryd gafodd ei eni.

"Yn ôl pob tebyg mae'n dod o'r Alban. Rwy'n credu mod i'n gwybod pwy yw'r aderyn - mae gen i syniad da - ond mae hynny'n hypothesis sydd angen ei gadarnhau rhywbryd eto."

Ffynhonnell y llun, Canolfan Bywyd Gwyllt Dyfi
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad oedd agor adeilad newydd y warchodfa yr wythnos diwethaf

Mae staff y ganolfan wedi gorfod cau eu drysau am y tro, ac mae cynlluniau i agor canolfan newydd ar safle'r warchodfa wedi cael eu rhoi i naill ochr.

Ond mae gwe-gamera'r warchodfa, dolen allanol yn parhau i roi darlun byw o holl weithgaredd yno wrth i Idris a Telyn ymgartrefu yno gyda'i gilydd.