Covid-19: Cyhuddo rhai siopau o fanteisio ar gwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Mae swyddogion safonau masnach Cymru yn ymchwilio i honiadau o siopau'n cymryd mantais a gorelwa yn ystod y pandemig coronafeirws.
Mae yna honiadau bod rhai siopau yng Nghymru wedi gwerthu papur tŷ bach am £1 yr un, a photeli bach o hylif glanhau dwylo am £15.
Er mwyn atal gorelwa yn ystod y pandemig, mae swyddogion safonau masnach yn cynorthwyo tasglu er mwyn targedu siopau sy'n annheg i gwsmeriaid.
Yn Abertawe mae swyddogion wedi derbyn cwynion am foddion Calpol sydd yn cael ei werthu am £10, torth o fara am £3 a chig halal sydd ar werth am £11 y kilo.
Prisiau'n dyblu
Mae Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd llywodraeth y DU wedi cysylltu ag Aelodau Seneddol ac Aelodau Cynulliad i'w rhybuddio am y sefyllfa.
Dywedodd prif weithredwr yr awdurdod, Andrea Coscelli: "Yn amlwg mae'n gyfnod pan mae'n rhaid i bawb ymddwyn yn gyfrifol ac amddiffyn ein cyd-ddinasyddion, yn enwedig pobl fregus.
"Rydym yn annog siopau i ymddwyn yn gyfrifol."
Mae tasglu'r awdurdod yn cadw golwg ar y sefyllfa ac yn medru ymyrryd.
"Mae'r awdurdod yn medru cyhoeddi rhybudd neu gymryd camau gweithredu, ac fe allai'r corff wneud cais am rymoedd brys i atal y fasnach," ychwanegodd Mr Coscelli.
"Gobeithio na fydd angen i ni ymyrryd - ond fe fyddwn yn gwneud yr hyn sydd angen i atal y lleiafrif o fusnesau sydd yn manteisio ar y sefyllfa.
'Pobl yn cofio'
Dywedodd Alison Farrar, sydd yn ymchwilydd i Safonau Masnach Cymru, ei bod wedi derbyn 30 o gwynion ynglŷn â gorelwa yn ystod y pythefnos diwethaf.
"Mae'r cwynion yn amrywio o brisiau yn dyblu mewn siopau ac achos o rannu pacedi o bedwar darn o sebon a'u gwerthu am bris uchel.
"Ein cyngor yw i chi beidio talu'r prisiau uchel yma a rhowch wybod i ni am hyn ar unwaith.
"Fodd bynnag mae ofnau ac ansicrwydd am y sefyllfa yn golygu bod rhai pobl yn bryderus ynglŷn â chyrraedd y siopau. Mae rhai siopau wedi bod yn ceisio elwa ar yr ansicrwydd."
Dywedodd y cynghorydd Mark Thomas, aelod o Gabinet Cyngor Abertawe, y dylai perchnogion siopau fod yn ofalus.
"Mae gan bobl gof hir. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd yn ystod stormydd eira 1982, roedd perchennog dwy siop yn y ddinas wedi manteisio ar y sefyllfa wrth iddo werthu bara am bris uchel iawn.
"Ond yn fuan ar ôl i'r stormydd fynd bu'n rhaid i'r siopau yna gau wrth i gwsmeriaid gadw draw. Bydd pobl yn cofio."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020