Cyflwyno cyffur newydd i gyn-ddefnyddwyr heroin

  • Cyhoeddwyd
heroinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod systemau imiwnedd cyn-ddefnyddwyr heroin yn gallu bod yn wan

Mae cyffur newydd i'r rhai sy'n gwella wedi iddynt fod yn ddibynnol ar heroin wedi ei gyflwyno yng Nghymru yn sgil haint coronafeirws.

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig buprenorphine.

Mae'n cael ei roi fel chwistrelliad fydd yn para am fis ac felly mae'n wahanol i methodone neu driniaethau dyddiol eraill.

Y gobaith yw y bydd yn lleihau'r nifer sydd angen ymweld â fferyllfeydd yn ddyddiol i gasglu presgripsiynau.

Dywedodd un ddynes, a fu'n gaeth i heroin, ac sydd yn derbyn y driniaeth, ei fod wedi gwneud hi'n "obeithiol ar gyfer y dyfodol".

Ers bod yn rhan o gynllun peilot buprenorphine mae'r ddynes 36 oed yn dweud bod y driniaeth wedi ei gwneud yn "annibynnol" a rhoi pen clir iddi.

Mae'n teimlo bod y driniaeth yn help mawr yn ystod y pandemig presennol gan nad oes yn rhaid iddi ymweld â fferyllfa yn ddyddiol.

'Ymateb positif'

Dywedodd Martin Blakebrough, prif weithredwr elusen Prosiect Kaleidoscope, bod y cyffur yn weddol newydd.

"Fe wnaethon ni ddewis pobl ar gyfer y peilot oedd yn debygol o elwa," meddai.

"Mae'r ymateb wedi bod yn bositif ond ry'n ni angen sicrhau fod pobl yn parhau i dderbyn therapïau eraill."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferyllfeydd wedi bod yn cael gwerth wythnos o brescripsiynau mewn diwrnod ers haint coronafeirws

Wrth iddo gyhoeddi bod y cyffur yn cael ei gyflwyno drwy Gymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod haint coronafeirws yn cyflwyno risg mawr i gyn-ddefnyddwyr heroin gan bod eu system iminwedd yn gallu bod yn wan.

Dywedodd: "Bydd y gwasanaeth newydd yn helpu sicrhau fod pobl yn parhau i gael cymorth ar gyfer eu dibyniaeth tra'n lleihau'r risg o ledaenu coronafeirws.

"Mae staff yn ein fferyllfeydd cymunedol a gwasanaeth camddefnyddio sylweddau yn gwneud gwaith anhygoel o dan amgylchiadau anodd.

"Mae lleihau eu llwyth gwaith a'r risg i'w hiechyd yn hanfodol."