Angen 'cynllun brys' i helpu porthladd Caergybi

  • Cyhoeddwyd
Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Porthladd Caergybi yn un o'r rhai prysuraf yn y DU

Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig "sylweddoli gwerth" porthladd Caergybi, yn ôl Arweinydd Cyngor Môn.

Daeth sylwadau Llinos Medi ar ôl iddi ysgrifennu at Ysgrifennydd Trafnidiaeth San Steffan ac Ysgrifennydd Cymru yn galw am gynllun "ar frys" i helpu'r busnes.

Yn eu llythyr mae Llinos Medi'n dweud nad ydy'r cynlluniau presennol ar gyfer helpu cwmnïau drwy'r pandemig "yn bodloni" anghenion y porthladd.

Mewn cyfweliad ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fore Sadwrn eglurodd Ms Medi bod incwm y safle wedi dirywio oherwydd gostyngiad yn nifer y teithwyr, ond bod yn rhaid i'r busnes barhau er mwyn galluogi cludiant nwyddau angenrheidiol.

"Mae'n rhaid pwysleisio pwysigrwydd porthladd Caergybi, nid yn unig i Fôn ac i Gymru ond i Brydain Fawr," meddai Ms Medi, sy'n aelod o Blaid Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i lywodraeth y DU "sylweddoli gwerth" porthladd Caergybi medd Llinos Medi, arweinydd Cyngor Môn

Caergybi ydy ail borthladd brysuraf Prydain ar gyfer cerbydau.

Dywedodd Ms Medi ei bod hi wedi dod i'r amlwg na fyddai'r porthladd yn gymwys i gael cymorth ariannol, a galwodd ar i'r Llywodraeth weithredu "ar frys".

"Eu harweiniad nhw sydd eisiau rŵan.

"Mae'n bwysig iawn eu bod nhw yn sylweddoli gwerth lleoliad fel Caergybi, nid i Fôn a Chymru ond i Brydain Fawr."

'Cynnig cefnogaeth'

Dywedodd llefarydd ar ran adran trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan eu bod yn cydnabod bod hyn yn "gyfnod heriol i'r sector drafnidiaeth".

Yn ôl y llefarydd mae newidiadau eraill wedi eu gwneud yn gynharach yn y mis sydd yn gwneud hi'n "haws i fwy o fusnesau gael mynediad at nawdd".

Dywedodd yr adran trafnidiaeth hefyd eu bod yn cydweithio gyda llywodraethau datganoledig a diwydiannau "i gynnig cefnogaeth a sicrwydd i weithwyr."