Teulu'n holi pam nad ydynt wedi cael llythyr 'amddiffyn'

  • Cyhoeddwyd
Teulu Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa, Macsen a Matthew Williams yn ei chael hi'n anodd cael blaenoriaeth o ran archebu bwyd

Mae cwpl sydd yn ofalwyr llawn amser i'w mab am fod ganddo gyflwr genetig prin yn cwestiynu pam nad ydyn nhw wedi derbyn llythyr 'amddiffyn' gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyflwr Macsen, sydd yn wyth oed, yn achosi epilepsi a symptomau tebyg i barlys yr ymennydd.

Er bod tua 80,000 o lythyrau wedi eu hanfon i'r bobl fwyaf bregus yng Nghymru yn eu rhybuddio i hunan ynysu am 12 wythnos i amddiffyn eu hunain, dyw Matthew a Lisa Williams o bentref Y Gellifedw yn Abertawe ddim wedi derbyn y llythyr.

Dywed Mrs Williams ei bod hi'n "annealladwy" nad ydyn nhw wedi cael llythyr.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan feddygfa'r cwpl yr awdurdod i roi llythyrau 'amddiffyn' i gleifion.

Mae'r llythyrau hefyd yn rhoi cyngor ynglŷn â sut mae rhywun yn gallu cael cymorth i gael bwyd.

Yn gynyddol mae'r teulu yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ffenest wag er mwyn archebu bwyd sydd yn dod i'r drws.

'Straen ofnadwy'

Yn ddiweddar fe wnaeth y teulu dreulio dau ddiwrnod yn ceisio trefnu bod eu harchfarchnad reolaidd yn dosbarthu bwyd iddynt.

Mae archfarchnadoedd yn cael gwybodaeth gan y llywodraeth ynglŷn â'r bobl sydd wedi derbyn y llythyrau.

"Mae'n rhwystredig. Mae gyda ni ddigon ar ein plât yn ceisio cadw ein mab yn fyw heb orfod mynd ar y we yn gyson i ganfod ffenest wag er mwyn archebu bwyd," meddai Mrs Williams, sydd wedi rhoi'r gorau i'w gwaith yn y gwasanaeth iechyd i ofalu am Macsen.

"Mae methu cael mynediad i siopa bwyd, sydd yn hanfodol i ni, yn straen ofnadwy arnom."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Macsen, welir yma gyda'i rieni a'i frawd, Ioan, yn cael gofal yn aml yn hosbis Tŷ Hafan ym Mhenarth

Mae Macsen yn cael trawiadau cyson ac yn derbyn gofal lliniarol gan hosbis plant Tŷ Hafan.

Yn ogystal mae ei rieni hefyd yn byw gyda chyflyrau iechyd ac mae ganddynt fab arall, Ioan, sydd yn 12 oed ac yn iach.

Ers chwe wythnos mae'r teulu wedi bod yn hunan ynysu ar ôl i Macsen gael ei drin yn yr ysbyty am annwyd. Cafodd hwnnw ei achosi gan straen arall o'r feirws covid.

"Roedd e yn y diwedd mewn ward gofal dwys…ac roedd hynny ar ôl beth fydden ni yn cyfeirio ato fe fel annwyd cyffredin," meddai Mr Williams.

"Pe byddai yn dal hwn (coronafeirws) byddai mewn perygl mawr felly mae'n rhaid i ni ei amddiffyn."

Mae meddyg y teulu a'r ymgynghorwyr yn Tŷ Hafan wedi dweud fod Macsen yn cwrdd â'r gofynion i warchod ei hun am 12 wythnos yn ystod yr argyfwng.

Ond does dim cynnig o gymorth wedi dod gan yr awdurdod lleol nac o unrhyw le arall.

Heb y llythyr gan y llywodraeth maen nhw yn dweud nad ydyn nhw yn siŵr sut i wneud cais am gymorth.

"Does dim tryloywder yn y broses… dim ffordd i ni gysylltu gyda rhywun a gofyn 'ydyn ni am y rhestr?'"

"Ni yn barod yn gwybod pa mor fregus yw Macsen," ychwanegodd Mrs Williams.

"Ni'n ddiolchgar ei fod e wedi bod gyda ni am wyth mlynedd ac rydyn ni yn treulio bob dydd yn ceisio gwneud yn siŵr y bydd e yma am wyth mlynedd arall.

Disgrifiad o’r llun,

Wyth oed yw Macsen Williams

"Mae e o dan ofal lliniarol a dydyn ni ddim yn gwybod pa mor hir y fydd e gyda ni. Felly ni'n gwneud popeth allwn ni i'w gadw yn saff."

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod pobl sydd yn "teimlo eu bod yn y categorïau mwyaf bregus a heb dderbyn llythyr yn gallu cysylltu gyda'u meddyg teulu i drafod y mater'"

Ychwanegodd y llefarydd bod modd i'w meddyg teulu ddarparu'r llythyr, os yw'n cytuno.

"Hyd yn hyn mae bron 2,000 o bobl wedi eu hychwanegu i'r rhestr ganolog gan eu meddygon teulu."