'Mwy nag erioed yn dysgu Cymraeg' wrth orfod aros adref

  • Cyhoeddwyd
SaySomethinginWelshFfynhonnell y llun, SaySomethinginWelsh

Mae'r gorchymyn i bobl osgoi gadael eu cartrefi yn ddiangen wedi arwain at dwf yn y nifer sy'n manteisio ar yr amser rhydd ychwanegol i ddysgu Cymraeg, medd rheolwyr y wefan SaySomethinginWelsh.

Dywedodd y cwmni eu bod "wedi profi cynnydd aruthrol yn y niferoedd sydd eisiau dysgu Cymraeg ers i bobl orfod aros adref o'u gwaith" yn sgil y coronafeirws.

Maen nhw hefyd yn dweud bod tanysgrifwyr newydd i'r cwrs yn "gwerthfawrogi'r cyfle i ganolbwyntio ar wneud rhywbeth cadarnhaol mewn cyfnod heriol".

Mae'r tanysgrifwyr diweddar yn cynnwys chwaraewr canol cae tîm pêl-droed merched Cymru, Rachel Rowe, a ddywedodd ei bod "wedi bod yn ceisio dysgu Cymraeg ers peth amser bellach" ond wedi "gwneud fawr ddim cynnydd".

Ychwanegodd: "Rydw i nawr yn gallu gwrando ar y deunydd tra'n gwneud tasgau eraill a throchi fy hun yn yr iaith heb i unrhyw beth darfu arna'i."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rachel Rowe wedi troi at y wefan i ddysgu Cymraeg ar ôl methu â chael y maen i'r wal yn y gorffennol

Mae'r cyfyngiadau presennol ar symud a theithio er mwyn atal lledaeniad y coronafeirws yn golygu fod llawer o bobl yn treulio mwy o amser ar-lein na'r arfer.

Mae'r rhesymau'n cynnwys cadw cysylltiad â ffrindiau a pherthnasau, ymarfer corff, a diddanu ac addysgu plant tra bo'r ysgolion ar gau.

Mewn ymateb i'r cyfyngiadau, mae SaySomethinginWelsh nawr yn cynnig gwasanaeth newydd 'Bedtime Welsh' am ddim ar gyfer plant a'u rhieni.

Yn ôl un o sylfaenwyr y cwmni, Aran Jones, roedd nifer o rieni di-Gymraeg plant sy'n derbyn addysg Gymraeg yn awyddus i'w helpu i barhau i ddysgu nes bydd yr ysgolion yn ailagor.

Ffynhonnell y llun, Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cogydd Ellis Barrie hefyd wedi mynegi diddordeb mewn gwella ei Gymraeg wrth i'r cyfyngiadau barhau

Nia Llewelyn sy'n cynnal sesiynau dyddiol ar-lein SaySomethinginWelsh - cyfle i ddysgwyr o unrhyw lefel ymuno am sgwrs ac ymarfer eu hiaith.

"Mae mwy o ddysgwyr nag erioed o'r blaen yn ymuno yn gyson â'r sesiynau yma erbyn hyn, gan gynnwys rhai mor bell i ffwrdd â Chanada," meddai.

Mae'r sesiynau'n cynnwys Noson Lawen fisol, sesiwn ganu wythnosol a sesiynau trin a thrafod operâu sebon.

Ychwanegodd Nia Llewelyn fod "panto ar y gweill gyda ni... ac mae un o'n dysgwyr ni yn y broses o greu côr rhithiol".

Ffynhonnell y llun, S4c
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aran Jones yn canmol brwdfrydedd y wynebau cyfarwydd sy'n dysgu Cymraeg yn Iaith ar Daith

Mae Aran Jones i'w weld ar S4C ar hyn o bryd yn dysgu nifer o wynebau cyfarwydd i ddysgu Cymraeg yn y gyfres Iaith ar Daith.

Mae wedi canmol brwdfrydedd y pump sy'n cymryd rhan - yr actores Ruth Jones, y cyflwynwyr Carol Vorderman ac Adrian Chiles, y cyn-athletwr Colin Jackson, a chyn-flaenwr Cymru a'r Llewod, Scott Quinnell.

Ychwanegodd: "'Dwi'n sicr y byddan nhw'n ysbrydoliaeth i unrhyw un sy'n ystyried mentro dysgu."