Pryder am ddiffyg offer diogelwch i drefnwyr angladdau

  • Cyhoeddwyd
Gareth Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Gareth Jenkins wedi derbyn peth offer gan yr awdurdod lleol

Mae ymgymerwyr yn dweud bod angen rhagor o offer diogelwch arnyn nhw os ydy'r sector am barhau i gynnal gwasanaethau yn ystod yr argyfwng.

Yn ôl Gareth Jenkins o Gartref Angladdau Baglan yng Nghastell-nedd Port Talbot, maen nhw wedi derbyn peth offer gan yr awdurdod lleol.

Ond oherwydd ei fod yn pryderu nad oes ganddo ddigon i'w gadw ef a'i staff yn ddiogel mae wedi gorfod galw ar ei chwaer i greu cannoedd o siwtiau gwyn iddyn nhw.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Genedlaethol Ymgymerwyr Angladdau y gallai rhai ymgymerwyr wrthod parhau i gynnig gwasanaethau.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio'n galed i ddosbarthu'r offer".

Disgrifiad o’r llun,

"Dyma'r gwasanaeth argyfwng y mae pobl yn anghofio," meddai Terry Tennens

"Mae rhaid i ni gael y PPE," meddai Mr Jenkins, gan esbonio bod rhaid iddo wisgo "dwy faneg, dwy siwt a rhywbeth dros y llygaid" wrth gludo cyrff.

"Mae'n cymryd rhyw 20 munud i roi'r dillad ymlaen ac mae'n rhaid bod yn ofalus wrth eu tynnu a'u rhoi mewn sachau," meddai.

Tra bod ei gwmni ymgymerwyr wedi derbyn offer diogelwch gan y cyngor lleol, mae'n rhaid cael rhai sy'n gallu gwrthsefyll dŵr ac felly mae chwaer Mr Jenkins bellach wedi creu cannoedd o eitemau i'r cwmni.

"Mae'r cyngor wedi rhoi siwt papur i ni ond mae'n rhaid i'n rhai ni fod yn waterproof felly mae'r chwaer wedi'u gwneud nhw - mae ganddi siop gwneud llenni felly mae hi wedi troi'i llaw i wneud y rhain i ni.

"Ni'n lwcus. ond mae rhaid i'r llywodraeth dynnu bys mas fi'n credu a rhoi'r pethau i'r cyngor a gallan nhw roi e i ni wedyn."

'Pryder enfawr'

Neges debyg sydd gan Terry Tennens, prif weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Ymgymerwyr Angladdau, gan ddweud fod y sefyllfa bresennol yn "bryder enfawr".

"Dyma'r gwasanaeth argyfwng y mae pobl yn anghofio ac os nad ydym yn gallu cyflawni'r gofal urddasol hwn pan mae unigolyn wedi marw, yna mae 'na broblem fawr," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arwyn Hughes eu bod wedi ceisio cael darpariaeth PPE o du hwnt i Gymru

Rhybuddiodd hefyd y gallai rhai ymgymerwyr wrthod cyflawni eu dyletswyddau heb yr offer i'w diogelu.

Ar Ynys Môn mae'r ymgymerwr Arwyn Hughes eisoes wedi derbyn offer diogelwch ar ôl iddo archebu rhai oddi ar y we.

"Mae'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio'n eithriadol o agos efo ni yn gofyn beth ydyn ni ei angen," meddai.

"Mi oedden ni fel cwmni o'r cychwyn un wedi gwneud cais i gwmnïau tu hwnt i Gymru i gael darpariaeth PPE."

Erbyn hyn mae cwmni ymgymerwyr Mr Hughes wedi derbyn offer fel masgiau a siwtiau gwyn o dramor a gan gwmnïau lleol.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o broblemau dosbarthu offer diogelwch i ymgymerwyr angladdau a'u bod yn "gweithio'n galed i ddatrys y broblem".