Llywodraethau wedi 'esgeuluso'u dyletswyddau'

  • Cyhoeddwyd
Sir Martin EvansFfynhonnell y llun, Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Yr Athro Syr Martin Evans Wobr Nobel am Feddygaeth yn 2007

Mae'r gwyddonydd Nobel, yr Athro Syr Martin Evans wedi cyhuddo llywodraethau Cymru a'r DU o "esgeuluso'u dyletswyddau" am beidio gwneud gwell defnydd o adnoddau domestig i ateb y galw am brofion Covid-19 ac offer diogelwch personol (PPE).

Dywedodd ei fod ef a Phrifysgol Caerdydd wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn cynnig cymorth, ond nad oedden nhw wedi cael ateb i'r llythyrau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu fod Prifysgol Caerdydd yn rhan o'r ymateb i coronafeirws, ac wrth ymateb i sylwadau'r Athro Evans dywedodd Prifysgol Caerdydd "nad oedd ei sylwadau yn adlewyrchu barn y sefydliad o gwbwl".

Mae BBC Cymru hefyd wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae darparu digon o PPE wedi bod yn her i lywodraethau Cymru a'r DU

Mae'r ddwy lywodraeth wedi methu eu targedau eu hunain am gynnal profion am Covid-19, ac mae'r ddwy hefyd yn wynebu heriau gyda PPE.

Ddydd Mawrth dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething fod digon o stoc PPE i bara am "ychydig ddyddiau".

Yn gynharach yn yr wythnos fe gafodd targed o 5,000 o brofion y dydd yng Nghymru ei ddileu, gyda Mr Gething yn dweud nad oes angen cymaint o brofion gyda'r cyfyngiadau ar symudiadau yn lleihau nifer yr achosion.

Dywedodd Syr Martin Evans ei fod yn ymwybodol bod Prifysgol Caerdydd ac eraill wedi cynnig cymorth i Lywodraeth Cymru, ond bod y cynigion heb eu derbyn hyd yma "oherwydd y dull ar y cyd rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England".

Ychwanegodd: "Rwy'n bryderus iawn bod yr agwedd yma yn un o fiwrocratiaeth bitw...llenwi ffurflenni ac ati.

"Yn fy marn i, mae'r sefyllfa yn debyg i ryfel. Mae pobl yn marw.

"Mae gennym elyn anweledig yn 'sgubo drwy'r wlad ac mae angen defnyddio pob adnodd sydd gennym yn ei erbyn, ac eto dyw ein llywodraethau ddim yn gwneud hyn.

"Maen nhw'n ceisio prynu offer o dramor.... PPE o dramor, profion o dramor. Dydyn nhw ddim yn defnyddio ein hadnoddau ni o gwbl ac rwy'n credu bod hyn yn esgeuluso'u dyletswyddau."

Aeth Syr Martin yn ei flaen i ddweud ei fod wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, ond na chafodd ateb heblaw cydnabyddiaeth eu bod wedi derbyn ei lythyr.

Dywedodd hefyd nad oedd llythyr at Lywodraeth Cymru gan Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi cael ei ateb chwaith.

Mynnodd Llywodraeth Cymru bod trafodaethau cyson gyda chynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd a Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi darpariaeth gyson o gyfarpar.

Ychwanegodd bod Prifysgol Caerdydd wedi cynorthwyo gyda swm mawr o gemegau ar gyfer profion, a bod academyddion yn cynghori Llywodraeth Cymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymateb drwy ddweud nad oedd sylwadau Syr Martin Evans yn adlewyrchu barn y sefydliad o gwbwl.

Dywedodd llefarydd ei bod wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn cynnig cefnogaeth lwyr gan gydnabod bod hwn yn gyfnod hynod heriol.

"Rydym yn parhau i fod mewn cysylltiad â swyddogion Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru a byddwn yn helpu mewn unrhyw ffordd bosib."