Clwb Pêl-droed Y Rhyl i gael ei ddiddymu
- Cyhoeddwyd
Mae cyfarwyddwyr Clwb Pêl-droed Y Rhyl wedi cyhoeddi eu bod wedi dechrau'r broses o ddod â'r clwb presennol i ben yn sgil problemau ariannol.
Dywedodd y clwb mewn datganiad bod y cyfarwyddwyr wedi cymryd y "penderfyniad anodd" ar ôl ystyried goblygiadau ariannol gwahardd pêl-droed o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.
Ychwanegodd y datganiad bod perchennog maes y Belle Vue wedi bod yn anfodlon ystyried prydles hir dymor neu i werthu ar dermau'r farchnad.
Roedd y clwb wedi datgan yn gynharach ym mis Ebrill bod angen £175,000 arnyn nhw er mwyn parhau.
Er bod sawl buddsoddwr wedi dangos diddordeb ni chafodd unrhyw gynnig ariannol gwirioneddol ei gyflwyno.
Cadarnhaodd Y Rhyl eu bod wedi cael cynnig o gymorth ariannol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, ond na fyddai hynny wedi bod yn ddigon i achub y clwb.
Sefydlu clwb newydd
Y Rhyl oedd pencampwyr Uwch-gynghrair Cymru yn 2004 a 2009, ac maen nhw wedi ennill Cwpan Cymru bedair gwaith yn eu hanes.
Gyda'r clwb presennol yn cael ei ddiddymu, mae'r Cyfarwyddwyr a Chymdeithas Cefnogwyr Y Rhyl wedi datgan eu bwriad i ystyried y posibilrwydd o sefydlu clwb newydd.
Mae'r penderfyniad i ddod â'r clwb presennol i ben yn golygu na fydd y clwb yn cwblhau'r tymor yng Nghynghrair y Gogledd os bydd y gystadleuaeth yn ail ddechrau, ac y bydd y clwb hefyd yn colli eu statws academi.
Yn ogystal â hynny bydd y clwb yn colli ei les presennol ar faes y Belle Vue.
"Mae hwn yn ddiwrnod emosiynol i bawb sydd yn gysylltiedig gyda'r clwb - yn wirfoddolwyr, cefnogwyr, chwaraewyr, staff hyfforddi a swyddogion y clwb," meddai'r cadeirydd Paul Higginson.
"'Da ni i gyd yn gefnogwyr ac yn teimlo hyn i'r byw.
"Ond wedi dweud hynny mae gan y dref draddodiad pêl-droed balch a chymeriad penderfynol, ac fel yn 1992, does dim amheuaeth gennai y bydd clwb newydd cryf yn codi [yn ei le]."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020