Cynnal angladd ffermwr adnabyddus o Bowys

  • Cyhoeddwyd
Richard TudorFfynhonnell y llun, Llun Teulu

Mae angladd ffermwr adnabyddus o Bowys a fu farw ddechrau'r mis wedi ei chynnal ddydd Mercher.

Bu farw Richard Tudor mewn damwain tractor wrth iddo weithio ar dir ei fferm yn Llanerfyl ger Llanfair Caereinion ar ddydd Gwener 3 Ebrill.

O dan y cyfyngiadau presennol i geisio lleihau lledaeniad y coronafeirws, dydy ffrindiau ac aelodau'r gymuned ehangach ddim yn cael mynd i'r angladd.

Mae'r canllawiau'r dweud mai dim ond y teulu agos a phobl oedd yn byw yn yr un tŷ a'r person sydd wedi marw sy'n cael mynychu.

Ond trwy negeseuon ar wefannau cymdeithasol fe wnaeth pobl yn Llanerfyl a Dyffryn Banw drefnu ffordd o dalu teyrnged iddo.

Fe benderfynon nhw yfed gwydryn o laeth iddo am 15:00 fel arwydd o barch, a chydnabyddiaeth o'r ffaith bod fferm Richard Tudor wedi newid i fod yn fferm laeth yn ystod yr wythnosau cyn ei farwolaeth.