Ramadan 'gwahanol iawn' i Fwslemiaid Cymru eleni
- Cyhoeddwyd
Bydd mis sanctaidd Ramadan "yn wahanol iawn i Fwslemiaid yng Nghymru" oherwydd y pandemig Covid-19, yn ôl arweinwyr cymunedol.
Mae mosgiau wedi cau ac mae'r rheolau ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol yn golygu bod yn rhaid addasu i drefn newydd.
"Fyddwn ni ddim yn cael cyfarfod yn yr hwyr i fwyta - a fydd dim modd cynnal cyfarfodydd gweddi ar y cyd," meddai Ahmed Ali, Imam yng nghanolfan Al-Ikhlas yn Adamsdown, Caerdydd.
Ymprydio a bwyta
Ramadan yw mis mwyaf sanctaidd crefydd Islam, pan fydd ffyddloniaid yn ymprydio rhwng toriad gwawr a machlud haul bob dydd, cyn torri'r ympryd â phryd iftar wedi iddi dywyllu.
Mae fel arfer yn gyfle i ailgysylltu yn ysbrydol, cymdeithasu â pherthnasau a chymdogion ac yn amser i ddangos haelioni ac i gyfrannu i elusennau.
Mae Cyngor Mwslemaidd Prydain wedi cyhoeddi neges yn cydnabod bod ynysu cymdeithasol yn heriol tu hwnt yn ystod cyfnod sanctaidd fel Ramadan. Maen nhw'n annog cymunedau i gadw cyswllt drwy Radio Ramadan Cymru sydd wedi cael ei lansio gan Gyngor Mwslemaidd Cymru.
"Ry'n ni'n annog ein haelodau i aros gartref ac i fwynhau Ramadan gyda theulu agos," meddai Mr Ali.
Yn ystod Ramadan dydy hi ddim yn anarferol, gyda'r nos, i weld cymdogion yn y stryd yn bwyta, wedi diwrnod o ymprydio, ond nid eleni.
"Er na allwn weddïo gyda'n gilydd, dan ni yn edrych ar sut i gynnal iftar - y bwyd gyda'r nos - ar y we gyda'n cymdogion."
'Puro'r enaid'
Mae llawer o Fwslemiaid yn credu bod ymprydio yn helpu i ddod â nhw'n agosach at y tlawd a'r rhai sy'n teimlo newyn yn rheolaidd.
"Mae Ramadan yn llawer mwy nag ymatal rhag bwyd a diod; mae'n gyfle i wthio'r botwm 'reset' ac i buro'r enaid ac ymarfer hunan-ddisgyblaeth," meddai Elinor Chohan, sy'n wreiddiol o Gerrigydrudion ond bellach yn byw ym Manceinion.
"Mi fydd yn rhaid i ni fodloni ar weddïo adre," meddai. "Rwy'n ffyddiog y bydd pobl yn gwrando ar y cyfarwyddiadau ac yn atal y feirws yma rhag lledaenu."
Mae ymprydio rhwng gwawr a machlud yn gyfnod arbennig o anodd i staff sy'n gweithio ar reng flaen y Gwasanaeth Iechyd.
"Roedd gen i farf, fel rhan o'm ffydd, am 15 mlynedd," meddai Dr Faraz Ali, dermatolegydd sydd bellach yn gweithio ar wardiau sy'n trin cleifion Covid-19 yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
"Roeddwn i'n gwybod bod yn rhaid i mi gael mwgwd PPE, felly mi wnes i eillio.
"Roedd yn foment emosiynol a heriol iawn i mi," meddai.
"Mae Islam yn dweud bod yn rhaid amddiffyn dynoliaeth. Os ydw i yn amddiffyn fy hun, eraill o'm cwmpas, a'm cleifion, mae eillio fy marf yn aberth bach nes bod pandemig y Covid drosodd."
Mae'n cyfaddef bod Ramadan fel arfer yn heriol ond mae'r pandemig yn ei gwneud hyd yn oed yn fwy o brawf na'r arfer.
"Rwy'n gweithio sifftiau 12 neu 13 awr ar y tro, sawl diwrnod yn olynol, yn gwisgo PPE.
"Mae'n gallu bod yn heriol iawn ar eich corff."
Mae elusen yn rhan bwysig iawn o Islam yn gyffredinol, ond, yn ôl Sian Messamah o Landrillo-yn-Rhos, yn ystod cyfnod Ramadan yn arbennig.
"Eleni, oherwydd bydd pobl wedi bod yn gwario llawer llai yn gyffredinol, yna gobeithio y byddwn ni'n gallu rhoi mwy i elusen na'r arfer," meddai.
Mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi ysgrifennu llythyr at Fwslemiaid yng Nghymru.
Mae'n cydnabod bod Ramadan yn digwydd "yn ystod cyfnod rhyfeddol pan mae'r byd yn delio â phandemig y coronafeirws".
"Heb os, mae gweithredu cyflym cymunedau Mwslemaidd hyd yma, trwy addasu i wahanol ffyrdd o addoli, wedi achub bywydau. Diolch i chi."
Neges gan Heddlu'r De
Mae Heddlu'r De hefyd wedi cyhoeddi neges ar eu gwefan yn dymuno'n dda i Fwslemiaid Cymru,
"Ers dechrau ymlediad yr haint, mae wedi cael effaith ar sawl dathliad crefyddol, yn cynnwys y Pasg i Gristnogion, Pesach i'r Iddewon, Faisaci i'r Sîcs a nawr Ramadan i'r cymuned Fwslemaidd. Mae'n rhoi sail o'r newydd i ni am wella dealltwriaeth rhwng cymunedau heddlu'r de.
Ry'n ni'n edrych ymlaen at ddyfodol pan allwn ni rannu pryd gyda'n gilydd unwaith yn rhagor ond yn y cyfamser, derbyniwch ein dymuniadau gorau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2020