Ysbyty maes i barhau 'am faint bynnag bydd ei angen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Agor 'Ysbyty Calon y Ddraig' yn Stadiwm Principality

Bydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd yn parhau fel ysbyty maes "am faint bynnag y bydd ei angen" medd prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

Fe ddaeth yr Undeb a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ynghyd i drawsnewid y stadiwm ar gyfer cleifion yn sgîl argyfwng coronafeirws.

Mae gan Ysbyty Calon y Ddraig le ar gyfer hyd at 2,000 o welyau.

"Y realiti yw os bydd angen ysbyty o'r maint yma mae hi'n annhebygol iawn y bydd rygbi yn cael ei chwarae o flaen torf o 74,000," meddai Martyn Phillips.

"Doeddwn erioed wedi disgwyl y byddai'r stadiwm yn cael ei ddefnyddio fel hyn ac felly mae'n teimlo braidd yn swreal.

"Mae'r hyn sydd wedi cael ei gyflawni yn yr wythnosau diwethaf wedi bod tu hwnt i beth oedd unrhyw un yn credu allai gael ei gyflawni."

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cytunodd Martyn Phillips i gymryd gostyngiad o 25% i'w gyflog yn sgil argyfwng coronafeirws

Gohiriwyd y gêm rhwng Cymru a'r Alban yn rownd olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar 14 Mawrth oherwydd y pandemig, ac fe benderfynodd yr Undeb ohirio holl gemau rygbi'r wlad wythnos yn ddiweddarach.

Gyda dim sicrwydd pryd y bydd modd ail ddechrau chwarae gemau, a rhybudd y gallai'r gwaharddiad ar gynnal digwyddiadau barhau am fisoedd eto, mae'r posibilrwydd y gall gemau rhanbarthol a rhyngwladol gael eu cynnal tu ôl i ddrysau caeëdig ymysg yr opsiynau dan sylw.

"Mae 'na ryw bedwar senario yn cael eu hystyried," meddai Phillips.

"Maen nhw'n amrywio o dim rygbi o gwbl i beidio chwarae o flaen torfeydd, yn ogystal â chwarae o flaen torfeydd bychan neu yn ôl i chwarae o flaen torfeydd llawn.

"Mi fydde ni'n hoffi dychwelyd i fod yn ôl yn chwarae yn fuan ond dyw hynny ddim am ddigwydd yn fuan.

"Gall unrhywbeth ddigwydd ac mae'n rhaid i ni fod yn barod," meddai.