Rhybudd am ostyngiad £100m mewn incwm prifysgolion

  • Cyhoeddwyd
AberFfynhonnell y llun, Photofusion

Fe all prifysgolion Cymru wynebu gostyngiad o bron i £100m yn eu hincwm o ganlyniad i bandemig coronafeirws yn ôl un adroddiad.

Mae astudiaeth Undeb Prifysgol a Choleg Cymru hefyd yn rhybuddio y gall prifysgolion weld gostyngiad o 13,000 yn niferoedd eu myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Daw hyn yn dilyn rhybudd gan brifysgolion y gallai llawer o sefydliadau fynd i'r wal heb gymorth ariannol brys.

Mae Undeb Prifysgol a Choleg Cymru wedi galw ar weinidogion Llywodraeth Cymru i weithredu ar frys.

Adroddiad

Mae'r adroddiad gan ymgynghoriaeth London Economics ar ran yr Undeb yn rhybuddio am "ganlyniadau ariannol enfawr" i'r sector yn y DU - sector sydd wedi gweld colledion sylweddol yn barod wedi i gyrff ohirio neu ganslo cynadleddau a digwyddiadau, a cholli incwm o lety myfyrwyr.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r sector hefyd yn wynebu toriad sylweddol yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol, gyda'r posibilrwydd fod miloedd o fyfyrwyr eraill yn dewis oedi cyn mynd i'r brifysgol tan flwyddyn nesaf.

Byddai hyn yn peryglu ffrwd ariannol craidd y prifysgolion yn ddifrifol medd yr adroddiad.

Gostyngiad incwm

Mae'r adroddiad yn rhagweld y gall prifysgolion Cymru weld gostyngiad incwm o £98m yn 2020-21, gan fygwth hyd at 1,200 o'r 23,000 o swyddi presennol yn y sector.

Mae'r adroddiad hefyd yn amcangyfrif y gall nifer y myfyrwyr blwyddyn gyntaf ostwng o 13,000 yng Nghymru, yn cynnwys 7,000 yn llai o fyfyrwyr o'r DU a 5,500 yn llai o fyfyrwyr rhyngwladol, yn cynnwys myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru fod yr adroddiad yn tanlinellu'r "risg ariannol difrifol" sydd yn wynebu'r sector.

"Ynghyd a'r cyfraniad pwysig mae prifysgolion yn ei wneud i gefnogi'r ymdrech cenedlaethol mewn ymateb i Covid-19, bydd prifysgolion hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn adferiad economïau a chymunedau yng Nghymru", meddai.

"Rydym yn gwybod fod prifysgolion yng Nghymru yn bwysicach o ran cyfran i economi Cymru nag unrhyw le arall yn y DU gan gynhyrchu £5bn o allbwn a bron i 50,000 o swyddi.

"Rhaid i lywodraethau Cymru a'r DU gymryd camau ar frys i ddarparu cefnogaeth fydd yn galluogi prifysgolion i oroesi y sialensiau difrifol hyn, ac i amddiffyn myfyrwyr, parhau gyda gwaith ymchwil, a chadw ein capasiti i yrru adferiad yr economi a'n cymunedau."