'Roedd gweld fy ngŵr yn gorfod fy ngadael yn y fath sefyllfa yn anodd'
- Cyhoeddwyd
Yr Aelod Cynullliad Bethan Sayed sy'n egluro sut brofiad yw rhoi genedigaeth yn ystod cyfnod y coronafeirws a pha mor anodd oedd delio â'r ffaith na allai ei gŵr, Rahil, fod gyda hi yn yr amser cyn, nac ar ôl, yr enedigaeth.
Doeddwn i ddim yn hir wedi dechrau fy nghyfnod mamolaeth pan ddaeth y newyddion cyntaf o China am y coronofeirws. Roeddwn i, fel pob menyw arall mae'n siŵr, yn edrych ymlaen at gyfnod o ymlacio a pharatoi at groesawu aelod newydd i'r teulu.
Roedden ni wedi cwblhau cwrs mamolaeth gyda rhieni eraill ac am gwrdd â nhw yn aml i rannu profiadau a syniadau am fod yn rhieni newydd. Coffis a chlonc dros gacennau, mynd am dro o gwmpas y parc... pethau syml ar ôl blynyddoedd o weithio heb fawr o seibiant!
Cefais ond un cyfle i wneud hynny cyn i'r lockdown gyrraedd Cymru. Y canllaw ar gyfer menywod beichiog wedi hynny oedd aros yn y tŷ.
Ond roedd bod yn y tŷ bob dydd yn rhoi gormod o amser i fi boeni am enedigaeth fy mabi; am y sefyllfa gymdeithasol ehangach a'r ansicrwydd am y dyfodol.
Ar ben hynny, roedd canllawiau'r NHS o ran cael mynediad i'r ward mamau yn yr ysbyty yn newid bron yn ddyddiol.
Anodd dygymod
Cefais wybod nad oedd gan wŷr neu bartneriaid hawl i fynd i'r ysbyty mwyach tan y cyfnod olaf posib na chwaith yn cael aros yno ar ôl yr enedigaeth.
Roedd mor anodd i mi ddygymod â'r ffaith na fyddai fy ngŵr yn gallu aros gyda fi, a minnau yn fam newydd heb yr un syniad am beth i'w wneud na sut i ymdopi.
Doeddwn i ddim yn disgwyl byddai rhoi genedigaeth yn hawdd, ond doeddwn i ddim yn disgwyl y byddai mor anodd chwaith!
Gan fod y babi'n hwyr yn cyrraedd gwnes i dderbyn y cynnig o gael inducement. Ar y ffordd adre o fy hebrwng i'r ysbyty stopiodd yr heddlu fy ngŵr a gofyn iddo pam ei fod yn gyrru'n hwyr y nos yn ystod cyfnod y lockdown. Gwnaeth yr un digwyddiad hynny i mi sylweddoli na fyddai dim yn normal o ran rhoi genedigaeth.
Treuliais nifer o ddyddiau yn yr ysbyty, ac ar ôl oriau o boen a thriniaethau lu, daeth y penderfyniad i gael C-section.
'Profiad gwefreiddiol'
Roedd y sefyllfa'n anodd, ond roedd fy ngŵr wrth fy ochr trwy'r drinaeth a phrofiad gwefreiddiol oedd medru croesawu babi Idris Abbas Sayed i'r byd o'r diwedd - ei weld am y tro cyntaf, ei glywed yn crio ac i'w ddal yn fy mreichiau yn saff.
Lai nag awr ar ôl yr enedigaeth, daeth nyrsys i dywys fy ngŵr o'r ysbyty. Doeddwn i ddim cweit yn siŵr beth oedd yn digwydd oherwydd o'n i wedi gorfod cymryd nifer o gyffuriau yn sgil y driniaeth. Roedd fy magiau yn ddi-drefn ar ôl rhuthro o un adran yn yr ysbyty i'r llall ac roedd yn amhosib i fi symud i newid neu i fwydo'r babi.
Roedd gweld fy ngŵr yn gorfod fy ngadael i yn y fath sefyllfa yn anodd iawn. Roeddwn i'n unig ac yn poeni am bopeth. Sut fydden i'n ymdopi heb help?
Roedd yn dda cael cwrdd â mamau eraill wrth gwrs - i rannu straeon, ac i roi help i'n gilydd. Ond roedd y staff yn eithriadol o brysur ac roedd yn amlwg bod mwy o straen arnyn nhw yn absenoldeb ein gŵyr neu bartneriaid, a fyddai fel arfer yno i'n helpu ni.
Masgiau a menig
Cefais gyfle i siarad gyda fy ngŵr a fy nheulu agos dros y ffôn yn ystod y dyddiau nesaf yn yr ysbyty - ond weithiau roedd gwneud y galwadau hynny'n anodd. Roeddwn i'n ceisio bod yn feddyliol gryf er mwyn y babi - ond yn gorfforol roeddwn i'n stryglo i wneud popeth fy hun. Roedd yn anodd i fy ngŵr hefyd. Roedd e adref ar ben ei hun - a'r unig lle'r oedd e am fod oedd wrth ein hochr ni.
Roedd staff ar y ward yn gwisgo masgiau a menig bob tro roedden nhw'n dod atom ni, ond roedd sicrhau pellter priodol rhwng y staff a'r menywod yn anodd oherwydd natur yr help oedd angen arnom.
Yn eironig, pan ddaeth yr amser i adael yr ysbyty ar ôl tridiau, o'n i'n llawer mwy nerfus am fynd adref - am adael trefn ddyddiol yr ysbyty a chysur y mamau eraill.
Pan ddaeth fy ngŵr i'r ysbyty, doedd e ddim yn cael dod i'r ward. Yn hytrach roedd yn rhaid i fi a'r fydwraig gario'r bagiau a gwthio'r babi ar ei throli i lawr i'r brif fynedfa. Yno, roedd croes fawr ar y llawr wedi ei greu allan o dâp coch. Roedd rhaid i fy ngŵr rhoi sedd car y babi ar y groes, ac wedyn gadael yr ysbyty eto er mwyn i mi roi'r babi yn ei le. 'Doedd dim hawl gan y fydwraig i fynd yn agos iddo.
Roeddwn wedi breuddwydio am gerdded yn rhamantus allan o'r ysbyty gyda fy ngŵr, ein babi yn y sedd yn saff. Ond fy realiti i oedd cerdded allan ar ben fy hun, fy ngŵr yn aros yn ei fenig a'i fasg y tu allan a rhes o geir gyda gŵyr a phartneriaid eraill y tu ôl iddo, yn aros eu tro i gasglu eu teuluoedd bach newydd. Swreal yw'r unig air am y peth!
Gweld teulu dros ffôn
Rydym wedi bod adre nawr ers tair wythnos, a'r unig gyfle i weld teulu yw trwy sgyrsiau lu ar fideo ffôn - yn ceisio dod o hyd i gyfle i ffonio pan mae Idris ar ddihun ac yn hapus ei fyd. Doedden ni ddim wedi disgwyl gallu cwrdd â theulu fy ngŵr yn syth, gan eu bod nhw'n byw yn India. Ond bydden i byth wedi dychmygu peidio gallu gweld fy rhieni i, sydd yn byw ond ychydig o filltiroedd i ffwrdd ym Merthyr Tudful!
Mae peidio gweld teulu wedi bod yn sialens heb os, ond mae'n well yn y pen draw, er mwyn i ni gyd fod yn saff. Bydd digon o gyfleoedd i ni gwrdd ar ôl i'r cyfnod yma ddod i ben. Dwi wedi prynnu camcorder bach er mwyn sicrhau ein bod ni'n recordio digon o'r cyfnod yma er mwyn dangos i babi Idris pan fydd o'n hŷn.
Mae dod yn fam am y tro cyntaf yn sialens ynddo'i hun ac mae dod â babi i'r byd mewn cyfnod mor fregus yn anoddach fyth. Ond yng nghanol y tywyllwch, mae wedi bod yn hyfryd medru rhannu straeon a lluniau o Idris ar y cyfryngau cymdeithasol. Dyna un peth sy'n llwyddo bob amser i godi gwên!
Ac wrth gwrs, 'does dim byd gwell na syllu mewn i lygaid babi a theimlo gwres ei gwtshys di-ri, yn enwedig ar ddyddiau anodd pan mae bod yn y tŷ a methu mynd allan yn profi'n anodd.
Ar ôl i hyn ddod i ben, dwi'n edrych ymlaen at fynd i nofio gyda'r babi; i gwrdd â rhieni eraill; i fynd i'r parc heb boeni am ba mor agos mae pobl eraill ata i - ac i rannu cariad babi Idris gyda'n teulu a ffrindiau i gyd.