'Ddylai Vaughan Gething ddim colli ei swydd,' medd AS Mynwy
- Cyhoeddwyd
Ddylai Gweinidog Iechyd Cymru Vaughan Gething ddim colli ei swydd, wedi iddo regi yn ystod sesiwn ar-lein o'r Cynulliad, ym marn Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David TC Davies.
Yn ystod cyfweliad fore Sul ar raglen Dewi Llwyd ar Radio Cymru, dywedodd Mr Davies, sy'n Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru, fod Mr Gething yn "gweithio'n galed ac yn cydweithio'n effeithiol gyda Llywodraeth Prydain er mwyn delio â'r argyfwng presennol".
Mae arweinydd Plaid Cymru wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn galw arno i ddiswyddo Mr Gething.
'Angen cydweithio'
Dywedodd David Davies hefyd y dylai llywodraethau y DU lacio cyfyngiadau ar yr un adeg yn hytrach na dewis amserlenni gwahanol.
"Mae coronafeirws yn fwy pwysig na party politics ar hyn o bryd, meddai, "beth sy'n bwysig yw gweithio gyda'n gilydd."Mae gweinidogion Llafur a gweinidogion SNP wedi bod yn rhan o'r cyfarfodydd Cobra a'r implementation groups ac yn y bôn ry'n ni wedi gwneud yr un peth.
"Er bod gan y Cynulliad y grym i wneud pethau'n wahanol - yn y bôn maen nhw'n gwneud yr un peth â Llywodraeth Prydain, a gobeithio y gallwn ni ddod allan o lockdown pan mae'n saff i wneud hynny.
"Dwi ddim yn derbyn bod diffyg arweiniad. Dyw democratiaeth ddim yn dibynnu ar un person.
"Mae gyda Boris awyrgylch o optimism ry'n ni ei angen ar hyn o bryd... dwi'n siŵr y gall Boris annog hyder yn y penderfyniad dros gael gwared ar rai o'r cyfyngiadau ai peidio.
Mae'n bwysig gwrando ar Sage a'r gwyddonwyr."
Dywedodd hefyd bod llywodraethau Cymru a'r Alban yn amlinellu fframwaith ond nad oes digon o eglurder a ddylid codi'r cyfyngiadau.
'Siom os yw Cymru'n gweithredu ar wahân'
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig bod y neges yn glir. Mae'r dystiolaeth yn dal i ddod i fewn o Sage - bydd cyfarfod i drafod hynny yn y dyddie nesa, ond dyw'r Llywodraeth ddim eisiau anfon neges aneglur allan, tan ein bod ni wedi cael tystiolaeth bod Covid o dan reolaeth.
"Mae pobl yn cael eu trin fel oedolion ac mae'n bwysig bod pobl yn deall y neges - ac ar hyn o bryd mae'r neges yn glir - arhoswch gartref, amddiffynnwch yr NHS ac achubwch fywydau."Dwi'n deall bod arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn gallu cael mantais o alw am godi cyfyngiadau. Ond y peth sy'n bwysig i ni yw'r flaenoriaeth i achub bywydau ac amddiffyn yr NHS."
Nododd hefyd bod yn rhaid peidio anfon neges am gyfyngiadau yn cael eu codi rhag ofn i'r DU weld ton newydd o achosion o'r haint.
"Mae fyny i lywodraethau Yr Alban a Chymru wneud beth maen nhw eisiau ei wneud. Yn fy marn i, byddai'n well i ni gerdded gyda'n gilydd fel pedair cenedl.
"Byddai'n fy siomi i os yw Cymru'n penderfynu gwneud rhywbeth anodd, i godi'r cyfyngiadau cyn Prydain."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2020